Ffynnongroyw
![]() Y ffynnon yr enwir y pentref ar ei hôl. | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir y Fflint ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.3304°N 3.3004°W ![]() |
Cod OS |
SJ134823 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Lleolir pentref Ffynnongroyw ( ynganiad ) ym mhen ogleddol Sir y Fflint ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru. Fe'i lleolir i'r de o Dalacre ar lan orllewinol Glannau Dyfrdwy, tua hanner ffordd rhwng Prestatyn i'r gorllewin a Mostyn i'r dwyrain, ar yr A548. Mae'n rhan o gymuned Llanasa.
Enwir y pentref ar ôl y Ffynnongroyw, ffynnon naturiol mewn llecyn ym mhen Lôn y Ffynnon. Ceir carreg yn do arni a gril (diweddar) i'w hamddiffyn. Tu ôl i'r pentref cyfyd bryniau cyntaf Bryniau Clwyd, gan ffurfio ymyl ddwyreiniol Dyffryn Clwyd. Mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn mynd rhwng y pentref a'r arfordir, ond does dim gorsaf yno.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Rob Roberts (Ceidwadwyr).[1][2]
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
Magwyd y gantores boblogaidd Caryl Parry Jones (ganwyd 1958) yn Ffynnongroyw.
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd y Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014