Trelawnyd

Oddi ar Wicipedia
Trelawnyd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTrelawnyd a Gwaenysgor Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3069°N 3.3659°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ090796 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auRob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Trelawnyd a Gwaenysgor, Sir y Fflint, Cymru, yw Trelawnyd ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Newmarket oedd enw'r pentref rhwng 1710 ac 1954. Mae'n gorwedd yn y bryniau isel tua hanner ffordd rhwng Diserth i'r gorllewin a Trelogan i'r dwyrain. I'r gogledd ceir pentref Gwaenysgor. Rhed yr A5151 trwy'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Rob Roberts (Ceidwadwyr).[1][2]

Trelawnyd o ben Y Gop.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ar bwys y pentref i'r gogledd, ceir Y Gop, bryn 250m sydd â lle arbennig yn hanes archaeoleg a chynhanes Cymru. Coronir ei gopa â charnedd anferth, un o'r rhai mwyaf yng Nghymru. Uchder y garnedd yw tua 12 medr ac mae tua 100 medr o led. Credir ei bod yn dyddio o Oes yr Efydd.[3] Ceir yn ogystal ogofâu ar lethrau'r Gop lle darganfuwyd olion cynhanesyddol.

Mae Trelawnyd yn un o blwyfi hynafol Sir y Fflint. Bu'n wreiddiol yn rhan o blwyf Diserth, ond daeth yn blwyf arwahan rhywbryd rhwng 1254 ac 1291, gan gynnwys trefgorddau Gop, Graig, Pentreffyddion a Rhydlyfnwyd.[4]

Newidiwyd enw'r pentref i Newmarket (Cymraeg: "Marchnad Newydd") gan John Wynne o Gopa'rleni ym 1710,[5] drwy ennill cynneddf gan Gofrestra'r Esgob i'w newid. Roedd Wynne eisoes wedi ail-adeiladu rhan helaeth o'r pentref, a sefydlodd nifer o ddiwydiannau, marchnad wythnosol a ffair flynyddol.[4] Bwriad newid yr enw oedd i droi'r pentref yn dref farchnad ar gyfer yr ardal, ond methodd yr ymgyrch gan i'r Rhyl ddod yn brif dref marchnad yr ardal yn hytrach na Newmarket.[6] Parhaodd yr enw Newmarket hyd 1954, pan ail-enwyd y pentref yn swyddogol yn Drelawnyd.[4]

Carnedd Y Gop

Côr Meibion Trelawnyd[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd Côr Meibion Trelawnyd ym 1933, er mwyn cystadlu yn Eisteddfod y pentref. Tyfodd aelodaeth y côr a daeth William Humphreys, tad y llenor Emyr Humphreys yn gôr-feistr. Dros y blynyddoedd bu'n canu llai a llai, ond yn 1946 ailsefydlwyd y côr gan fynd o nerth i nerth. Enillodd y côr gystadleuaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith: yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Bala 1967 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhuthun 1973. Mae'r côr yn dal i fynd hyd heddiw.[7]

Cyfleusterau[golygu | golygu cod]

Yn y pentref lleolir Ysgol Gynradd Trelawnyd, sef ysgol noddedig wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru, a tafarn y "Crown Inn" sy'n dyddio o'r 17g.

Enwogion[golygu | golygu cod]

  • Emyr Humphreys (ganwyd 1919) - llenor, bardd a nofelydd Cymreig o fri a anwyd yn Nhrelawnyd[8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Christopher Houlder (Mawrth 1975). Wales: an archaeological guide. Faber. ISBN 9780571082216
  4. 4.0 4.1 4.2  Trelawnyd (formerly Newmarket). Genuki. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.
  5.  Y Bywgraffiadru Ar-lein: Wynne, John. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.
  6.  Trelawnyd Tourist Information. AboutBritain.com. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.
  7.  Hanes. Côr Meibion Trelawnyd. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.
  8.  BBC - North West Wales Arts-Emyr Humphreys. BBC. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]