Neidio i'r cynnwys

Gwesbyr

Oddi ar Wicipedia
Gwesbyr
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanasa Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3381°N 3.3383°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ109832 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DURob Roberts (Ceidwadwyr)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Pentref yng nghymuned Llanasa, Sir y Fflint, Cymru, yw Gwesbyr[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (amrywiad: Gwespyr).[2] Saif ym mhen gogleddol y sir ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, rhwng Prestatyn 4 km i'r gorllewin a Ffynnongroyw i'r dwyrain ar briffordd y A548. Fymryn i'r gogledd mae Talacre a'r Parlwr Du ac i'r de mae pentref Llanasa. Mae Bryniau Clwyd yn codi i'r gorllewin o'r pentref.

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Yn ôl Syr Ifor Williams, mae'r enw yn ei naill ffordd, yn amrywiad Cymraeg o'r enw lle Saesneg Westbury.[3] Fel nifer o enwau lleoedd eraill yr ardal, megis Prestatyn, Bagillt, a Bistre, mae'r enw o darddiad Saesneg wedi'i Gymreigio pan newidiodd iaith yr ardal o'r Saesneg i'r Gymraeg yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Ionawr 2022
  3. Ifor Williams, Enwau Lleoedd (Lerpwl, 1945), t. 10.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]