Pantasaph

Oddi ar Wicipedia
Pantasaph
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.274°N 3.259°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ161760 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auRob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Chwitffordd, Sir y Fflint, Cymru, yw Pantasaph[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar ymyl priffordd yr A55 yng ngogledd y sir, tua dwy filltir i'r gorllewin o Dreffynnon a saith milltir i'r dwyrain o Lanelwy. Enwir y pentref ar ôl Sant Asaph.

Mae gan yr Eglwys Gatholig fynachlog o Urdd Sant Ffransis a chwfent yn y pentre ac mae dylanwad yr eglwys i'w gweld ymhobman yno. Daw nifer o bobl i Bantasaph i dreulio cyfnod o enciliad.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato