Y Fflint
| |
Math |
tref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir y Fflint ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
4.275 km² ![]() |
Cyfesurynnau |
53.244°N 3.132°W ![]() |
Cod SYG |
W04000186 ![]() |
Cod OS |
SJ245725 ![]() |
Cod post |
CH6 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Mae'r Fflint (hefyd Saesneg: Flint) yn dref ar lannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint. Mae gorsaf drenau'r dref ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Rhed yr A548 a'r A5119 drwy'r dref. Y Fflint yw canolfan weinyddol y sir.
Tref ddiwydiannol yw'r Fflint. Ar ymyl y dref ceir castell y Fflint, a godwyd rhwng 1277 a 1280 gan Edward I o Loegr. Nid oes llawer i'w weld yno heddiw o'r dref garsiwn ar gyfer ymsefydlwyr o Loegr a godwyd wrth ymyl y castell.
Heddiw mae'r Fflint yn ganolfan siopa eithaf prysur yn yr ardal.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Rob Roberts (Ceidwadwyr).[1][2]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Nid yw tarddiad enw'r Fflint yn sicr ond mae'n debyg y daw o'r Lladin castellum super fluentum, sef "castell ar afon", er bod rhai yn meddwl ei fod yn dod o siâp y sir, sy'n debyg i gyllell fflint hynafol..[3] Mae gan y Fflint y siartr dref hynaf yng Nghymru, sy'n dyddio'n ôl i 1284.[angen ffynhonnell]
Cychwynnodd Edward I waith ar Gastell y Fflint ym 1277 yn ystod ei ymgyrch i oresgyn Cymru. Roedd lluoedd Madog ap Llywelyn wedi ymosod ar y castell a'r dref yn ystod gwrthryfel 1294-95 ac felly fe'i llosgodd amddiffynwyr y dref er mwyn ei warafun i'r Cymry.
Rhoddwyd Rhisiart II i'w elyn Henry Bolingbroke yn y castell ym 1399. O ganlyniad i hyn, Castell y Fflint yw lleoliad drama Shakespeare, Richard II. Y cyntaf o "gylch haearn" o gestyll brenhinol Edward I yng Nghymru oedd y castell hefyd a defnyddiwyd ei gynllun fel sail i gestyll mwy fel Harlech a Rhuddlan. Methodd Owain Glyn Dŵr yn ei ymosodiad arno ar ddechrau ei wrthryfel ym 1400.
Yn hytrach na mur o gwmpas y dref, roedd ffos balis amddiffynol o bridd a phren. Gellid gweld hon yn nhrefn y strydoedd nes ganol y 1960au, a gellir gweld y ffin ganoloesol hyd heddiw. Mae hyn i'w weld hefyd ar y map o Sir y Fflint gan John Speed.
Mae tai bric coch o'r 19g, yn aml mewn rhesi, yn nodweddiadol o bensaernïaeth y Fflint. Codwyd eglwys y dref, Eglwys Fair, yn y 19g. Mae'n ganolfan siopio eithaf prysur.
Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]
Ym 1969, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Fflint, felly mae ganddi gylch o feini'r Orsedd yn y cae gyferbyn ag Ysgol Gwynedd. Ym mis Gorffennaf 2006, meini'r Fflint oedd canolbwynt seremoni datgan Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau y flwyddyn wedyn.[4]
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Morgan, Thomas (1912). The Place-names of Wales. Newport: John Southall. Cyrchwyd 2015. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ National Eisteddfod Proclamation, BBC Wales, http://www.bbc.co.uk/wales/northeast/sites/slideshows/pages/nat-eist.shtml?1, adalwyd 27 August 2006
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd y Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog