Castell y Fflint
Math | castell, safle archaeolegol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Y Fflint |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 5.7 metr |
Cyfesurynnau | 53.2517°N 3.12993°W |
Rheolir gan | y Goron, Cadw |
Perchnogaeth | Edward I, brenin Lloegr |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Sefydlwydwyd gan | Edward I, brenin Lloegr |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL003 |
Codwyd Castell y Fflint yn y Fflint rhwng 1277 a 1283 ar lannau Dyfrdwy gan Edward I o Loegr yn ystod ei ryfelau yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd a'i frawd Dafydd. Roedd yn wersyll pwysig i'r lluoedd Seisnig yn ystod y rhyfelau hyn; y cyntaf yn y gadwyn o gestyll a gododd Edward ar hyd arfordir gogledd a gorllewin Cymru i warchod y tir a oresgynodd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Codwyd y rhan gwreiddiol o'r castell ar fyrder, dan ofn ymosodiad gan y Cymry, a dywedir fod tus 1,800 o ddynion wrth y gwaith o gloddio'r ffos amddiffynnol yn unig. Mae'r castell yn nodweddiadol am fod ganddo dŵr anferth ar wahân i weddill y castell. Cynlluniwyd tref fechan ar yr un pryd, wrth y castell, ar gynllun rheolaidd ac wedi'i hamgylchynu â muriau.
Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr newidiodd y castell ddwylo sawl gwaith. Cafodd ei gipio'n derfynol gan luoedd y Seneddwyr yn 1646; fe'i dynwyd i lawr yn fuan ar ôl hynny. Yn y 18g adeiladwyd carchar ar y safle. Adfeilion yn unig sydd ar y safle heddiw, ond erys y tŵr yn olygfa drawiadol.