Dafydd ap Gruffudd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Dafydd, Arglwydd Dyffryn Clwyd[1]
Baner Gwynedd

Roedd Dafydd ap Gruffudd (c. 12383 Hydref, 1283) yn Dywysog Cymru o Ragfyr 1282 hyd 1283, yn dilyn marwolaeth ei frawd Llywelyn ap Gruffudd. Ef oedd yr olaf o frenhinoedd a thywysogion Gwynedd, er mai ei frawd Llywelyn a gafodd y teitl Ein Llyw Olaf.

Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr oedd Dafydd yn fab i Gruffudd ap Llywelyn Fawr a'i wraig Senana, ac felly'n wŷr i Llywelyn Fawr. Y trydydd o bedwar mab oedd Dafydd. Yn 1241 cofnodi iddo ef a'i frawd iau Rhodri gael eu rhoi'n wystlon i'r brenin Harri III o Loegr fel rhan o gytundeb.Yn 1253 cofnodir iddo gael ei alw i dalu gwrogaeth i Harri III.

1255-81[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1255 ymunodd a'i frawd Owain yn erbyn Llywelyn, ond cawsant eu gorchfygu ganddo ym Mrwydr Bryn Derwin. Carcharwyd Dafydd, ond rhyddhaodd Llywelyn ef y flwyddyn ddilynol a'i adfer i'w lys. Yn 1263 ymunodd a Harri III mewn ymgyrch yn erbyn Llywelyn. Wedi i Lywelyn gael ei gydnabod gan Harri fel Tywysog Cymru yn ôl Cytundeb Trefaldwyn yn 1267, adferwyd Dafydd i ffafr Llywelyn eto, ond yn 1274 ymunodd a'r brenin Edward I, brenin Lloegr mewn ymgyrch arall yn erbyn Llywelyn. Priododd ag Elizabeth Ferrers, merch William de Ferrers, Iarll Derby a pherthynas pell i'r brenin.

Rhyfel 1282-83[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr oedd Dafydd wedi cael addewid am diroedd yng ngogledd Cymru gan Edward yn dâl am ei gymorth, ond ni chafodd y cyfan a addawyd iddo. Ar Sul y Blodau 1282 ymosododd Dafydd ar Penarlâg, gan ddechrau'r rhyfel a roes derfyn ar deyrnas Gwynedd. Yr oedd i Dafydd ei hun ran amlwg yn y rhyfel, a phan laddwyd Llywelyn mewn ysgarmes yng Nghilmeri ddiwedd y flwyddyn honno cyhoeddwyd Dafydd yn dywysog yn ei le. Nid oedd yr un gefnogaeth i Dafydd ag i Lywelyn, ond llwyddodd i gadw Castell Dolwyddelan am gyfnod. Wedi i'r castell yma syrthio i fyddin Edward ar 18 Ionawr 1283, enciliodd Dafydd i Gastell y Bere, lle bu byddin o dros 3,000 o wŷr yn gwarchae arno. Bu raid i'r garsiwn bychan ildio ar 25 Ebrill ond llwyddodd Dafydd i ddianc i Castell Dolbadarn, cyn gorfod chwilio am loches yn y mynyddoedd. Ymddengys iddo gael ei fradychu gan rai o'i wyr ei hun, a chymerwyd ef yn garcharor ar lethrau Cadair Idris.

Ei ddiwedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 28 Mehefin 1283 galwodd Edward I senedd i gyfarfod yn Amwythig i farnu Dafydd. Ar 30 Medi dedfrydwyd ef i farwolaeth am deyrnfradwriaeth, oherwydd ei fod wedi torri cytundebau a wnaeth â'r brenin. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru. Mae rhai yn credu mai ef oedd y cyntaf i ddioddef y math yma o ddienyddiad erchyll an deyrnfradwriaeth, a ddaeth yn gyffredin dan cyfraith Lloegr yn y canrifoedd nesaf. Gosodwyd pen Dafydd ar bolyn yn Nhŵr Llundain gerllaw pen ei frawd Llywelyn.

Tynged yr etifeddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Gyrrwyd ei ferch Gwladys, i leiandy yn Sixhills, Swydd Lincoln, lle bu farw yn 1336,[2] tra charcharwyd ei feibion bychain Llywelyn ac Owain yng Nghastell Bryste. Cawsant yr un driniaeth ag etifeddion Llywelyn Ein Llyw Olaf felly, gyda'r bwriad gan Edward I o ddileu Teulu Gwynedd am byth. Yn ôl rhai o'r achau Cymreig, goroesodd ei fab perth a llwyn, Dafydd Goch, a bu ei ddisgynyddion yn byw yn Nant Conwy am sawl cenhedlaeth.

 
 
 
 
 
 
 
 
Llywelyn Fawr
1173-1240
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd ap Llywelyn Fawr
1200-1244
 
Dafydd ap Llywelyn
1215-1246
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Goch ap Gruffydd
d. 1282
 
Llywelyn ap Gruffudd
(Llywelyn yr Ail)
1223-1282
 
 
 
Dafydd ap Gruffydd
1238-1283
 
 
 
 
 
 
 
Rhodri ap Gruffudd
1230-1315
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Y Dywysoges Gwenllian
1282-1337
 
Llywelyn ap Dafydd
1267-1287
 
Owain ap Dafydd
1265-1325
 
Gwladys
(m. 1336 yn Sixhills)
 
Tomas ap Rhodri
1300-1363
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Lawgoch
1330-1378

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • John Davies, Hanes Cymru (Llundain, 1990)
  • Ralph Maud, Dafydd Tywysog Olaf Cymru ('Cofiwn', 1983). Cyfieithiad o'r erthygl Saesneg a gyhoeddywd yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1968.
  • J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Ymlaen rhuthun!
  2. Princes of Gwynedd, princesofgwynedd.com. Adalwyd 2014.
O'i flaen :
Llywelyn ap Gruffydd
Tywysogion Gwynedd Olynydd :
---