Harri III, brenin Lloegr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Harri III o Loegr)
Harri III, brenin Lloegr
Ganwyd1 Hydref 1207 Edit this on Wikidata
Caerwynt Edit this on Wikidata
Bu farw16 Tachwedd 1272 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, Arglwydd Iwerddon Edit this on Wikidata
TadJohn, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
MamIsabella o Angoulême Edit this on Wikidata
PriodEleanor o Provence, Eleanor o Provence Edit this on Wikidata
PlantEdward I, brenin Lloegr, Marged o Loegr, Beatrice o Loegr, Edmund Crouchback, Katherine o Loegr, Richard o Loegr, Ioan o Loegr, William o Loegr, Harri o Loegr Edit this on Wikidata
LlinachLlinach y Plantagenet Edit this on Wikidata

Harri III (1 Hydref 1207 - 16 Tachwedd 1272), oedd brenin Lloegr o 19 Tachwedd 1216 hyd ei farw.[1] Roedd yn fab i John, brenin Lloegr a'r frenhines Isabella o Angouleme. Roedd yn frawd i Siwan, gwraig Llywelyn Fawr. Etifeddodd yr orsedd pan oedd yn ddim ond naw oed yn ystod Rhyfel Cyntaf y Barwniaid. Arweiniwyd milwyr Harri gan William Marshal, Iarll 1af Penfro gan drechu'r gwrthryfelwyr ym Mrwydr Lincoln a Sandwich yn 1217. William Marshal oedd ei ymgeleddwr, wedi marwolaeth y brenin John.

Cymerodd Harri lw y byddai'n ffyddlon i Siarter Mawr1225, a oedd yn cyfyngu hawliau'r Brenin ac yn dyrchafu hawliau'r barwniaid. Ar ddechrau ei frenhiniaeth, roedd gan Hubert de Burgh ac yna Peter des Roches lle flaenllaw yn ei lywodraethu, a wnaeth dro pedol gan drosglwyddo'r hawliau yn ôl i'r brenin. Ceisiodd y brenin, yn aflwyddiannus, i drechu Ffrainc - y rhan a fu ar un tro'n eiddo i'w dad. Yn 1232 gwrthryfelodd mab William Marshal yn erbyn y brenin, ond daeth yr Eglwys i gymodi rhyngddynt a chafwyd cyfnod o heddwch.

Manylion personol[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yng Nghaerwynt. Priododd Eleanor o Provence yn Ionawr 1236.

Plant[golygu | golygu cod]

  • Edward (1239–1307)
  • Marged (1240–1275)
  • Beatrice (1242–1275)
  • Edmund Crouchback (1245–1296)
  • Catrin (1253–1257)
Rhagflaenydd:
John
Brenin Lloegr
19 Tachwedd 121616 Tachwedd 1272
Olynydd:
Edward I

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Ridgeway, Huw W. (2004), "Henry III (1207–1272)", Oxford Dictionary of National Biography (arg. online), Gwasg Prifysgol Rhydychen, doi:10.1093/ref:odnb/12950CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.