Eleanor o Provence
Jump to navigation
Jump to search
Eleanor o Provence | |
---|---|
![]() | |
Brenhines Lloegr | |
Cyfnod | 14 Ionawr 1236 – 16 Tachwedd 1272 |
Coronwyd | 20 Ionawr 1236 |
Ganwyd |
c. 1223 Aix-en-Provence |
Bu farw |
24/25 Mehefin 1291 Amesbury, Wiltshire |
Claddwyd | Priordy Amesbury |
Priod | Harri III, brenin Lloegr |
Plant |
Edward I, brenin Lloegr Marged, brenhines yr Alban Beatrice Edmund Crouchback, Iarll Lancaster Katherine |
Teulu | Tŷ Barcelona |
Tad | Ramon Berenguer IV, Iarll Provence |
Mam | Beatrice o Savoy |
Roedd Eleanor of Provence (c. 1223 – 24 (neu 25) Mehefin 1291)[1] yn frenhines Lloegr, fel gwraig Harri III, brenin Lloegr, rhwng 1236 a 1272. Roedd hi'n Rhaglaw Lloegr tra bod ei gŵr i ffwrdd ym 1253.[2]
Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]
Merch Ramon Berenguer IV, Iarll Provence, a'i wraig Beatrice, oedd Eleanor. Chwaer hynaf Eleanor oedd Marguerite o Provence, brenhines Ffrainc fel gwraig Louis IX. Roedd ei chwaer, Sancha, yn frenhines yr Almaen, a'i chwaer ifanca, Beatrice, yn frenhines Sisili.
Plant[golygu | golygu cod y dudalen]
- Mab hynaf Eleanor oedd Edward I, brenin Lloegr, a orchfygodd Cymru.
- Marged (1240–1275), gwraig Alexander III, brenin yr Alban, a mam Marged, "Y Forwyn Norwy"
- Beatrice (1242–1275), gwraig Jean II de Bretagne
- Edmund Crouchback, 1af Iarll Lancaster (1245–1296)
Plant a fu farw'n ifanc:
- Katherine (1253–1257)
- Rhisiart (1247–1256)
- John (1250–1256)
- Wiliam (1251–1256)
- Harri (1256–1257)