John, brenin Lloegr
John, brenin Lloegr | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1166 ![]() Beaumont Palace ![]() |
Bu farw | 19 Hydref 1216 ![]() Newark-on-Trent ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Galwedigaeth | teyrn ![]() |
Swydd | brenin Lloegr, dug Normandi ![]() |
Tad | Harri II ![]() |
Mam | Eleanor o Aquitaine ![]() |
Priod | Isabel, Countess of Gloucester, Isabella o Angoulême, Adela de Warenne, Isabel, Countess of Gloucester ![]() |
Plant | Harri III, Richard, iarll 1af Cernyw, Joan o Loegr, Brenhines yr Alban, Isabella of England, Eleanor of Leicester, Y Dywysoges Siwan, Richard FitzRoy, Oliver fitz Regis, Oliver (?), Osbert Gifford, Geoffrey FitzRoy, John FitzJohn, Odo FitzRoy, Ivo (?), Henry (?), Richard of Wallingford, Matilda of Barking, Isabella la Blanche, Joan (?) ![]() |
Llinach | Llinach y Plantagenet ![]() |
Brenin Lloegr o 6 Ebrill 1199 tan ei farwolaeth oedd John (24 Rhagfyr 1166 – 18/19 Hydref 1216). Ganwyd yn Rhydychen, yn bumed mab (a'r ieuengaf) i Harri II, brenin Lloegr, a'i wraig Eleanor o Aquitaine.
Cafodd ei yrru gan ei dad i Iwerddon yn 1185 ond bu rhaid i Harri ei alw'n ôl am fod cwynion am ei ymddygiad yno.
Cafodd ei goroni'n frenin Lloegr yn Abaty San Steffan ar 27 Mai 1199. Yn 1189 priododd ag Isabella o Gaerloyw, merch ac etifedd William Fitz Robert, Ail Iarll Caerloyw. Nid oedd iddynt blant ac fe gawsant ysgariad tua'r adeg y daeth John ar yr orsedd. Ailbriododd John ag Isabella d'Angoulême a oedd ugain mlynedd yn iau nag ef, ar 24 Awst 1200.
Gorfodwyd ef i lofnodi'r Siarter Fawr (Magna Carta) gan y barwniaid a'r eglwys ar 15 Mehefin 1215.
Priododd ei ferch Siwan â'r tywysog Llywelyn Fawr.
Bu farw yn Newark, 19 Hydref 1216.
Plant[golygu | golygu cod y dudalen]
Gyda'i wraig Isabella d'Angoulême[golygu | golygu cod y dudalen]
- Harri III, brenin Lloegr (1207–1272), brenin Lloegr 1216–1272
- Rhisiart, 1af Iarll Cernyw (1209–1272)
- Joan o Loegr (1210–1238), gwraig Alexander II, brenin yr Alban
- Isabella Plantagenet (1214–1241), gwraig Ffrederic II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig.
- Elinor (1215–1275), gwraig Simon de Montfort a mam Elinor de Montfort
Rhagflaenydd: Rhisiart I |
Brenin Lloegr 6 Ebrill 1199 – 18/19 Hydref 1216 |
Olynydd: Harri III |
|