Ffrederic II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ffrederic II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Frederick II and eagle.jpg
Ganwyd 26 Rhagfyr 1194 Edit this on Wikidata
Iesi Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd 1197 Edit this on Wikidata
Bu farw 13 Rhagfyr 1250 Edit this on Wikidata (55 oed)
Achos: Dysentri Edit this on Wikidata
Fiorentino Edit this on Wikidata
Man preswyl Palermo Edit this on Wikidata
Galwedigaeth brenin neu frenhines, Ysgrifennwr, Bardd Edit this on Wikidata
Swydd King of the Romans, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, King of Jerusalem, list of monarchs of Sicily, Duke of Swabia Edit this on Wikidata
Tad Henry VI, Holy Roman Emperor Edit this on Wikidata
Mam Constance Edit this on Wikidata
Priod Constance of Aragon, Isabella II of Jerusalem, Isabella of England, Bianca Lancia Edit this on Wikidata
Partner Bianca Lancia Edit this on Wikidata
Plant Henry (VII) of Germany, Conrad IV of Germany, Margaret of Sicily, Anna of Hohenstaufen, Manfred, King of Sicily, Enzio of Sardinia, Frederick of Antioch, Frederick of Pettorano, Richard von Chieti, Violante di Svevia, Enrico Carlotto di Sicilia Edit this on Wikidata
Perthnasau Ffredrig I, Roger II of Sicily, Ezzelino III da Romano Edit this on Wikidata
Llinach House of Hohenstaufen Edit this on Wikidata

Roedd Ffrederic II (26 Rhagfyr 119413 Rhagfyr 1250) yn frenin Sicilia o 1198 ymlaen, yn frenin yr Almaen o 1212 ac yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1220 hyd ei farwolaeth.

Roedd Ffrederic yn fab i'r ymerawdwr Henri VI o deulu Hohenstaufen a Constance o Sicila. O 1222 ymlaen, bu'n ymgyrchu yn erbyn y Mwslimiaid oedd wedi ymsefydlu yn Sicila, gan orfodi pob un nad oedd yn barod i droi at Gristnogaeth i symud i ddinas Lucera.

Yn 1225, priododd Ffrederic Yolande o Jeriwsalem, ac addawodd i'r Pab y byddai'n mynd ar Groesgad. Cychwynnodd yn 1228, wedi iddo gael ei esgymuno am oedi'n rhy hir. Nôd Ffrederic oedd ceisio cael cytundeb diplomatig i ganiatau i Gristnogion ymweld a'r safleoedd sanctaidd. Yn 1229, cytunodd i Heddwch Jaffa gyda Swltan yr Aifft. Ar 12 Mawrth 1229, coronwyd Ffrederic yn Frenin Jeriwsalem. Bu gwrthwynebiad cryf gan arweinwyr y Ffranciaid, a gadawodd Ffrederic Jeriwsalem i ddychwelyd i Sicilia.

Gelwid Ffrederic yn Stupor Mundi ("rhyfeddod y byd"). Siaradai chwech iaith: Lladin, Sicileg, Almaeneg, Ffrangeg, Groeg ac Arabeg. Ymddiddorai mewn athroniaeth a gwyddoniaeth, ac ysgrifennodd lyfr ar heboga: De Arte Venandi cum Avibus ("Am y gelfyddyd o hela gydag adar").

Rhagflaenydd:
Otto IV
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
12201250
Olynydd:
Harri VII