Siarl Dew
| Siarl Dew | |
|---|---|
| Ganwyd | 839, 832 Neudingen |
| Bu farw | 13 Ionawr 888 o clefyd Neudingen |
| Galwedigaeth | teyrn |
| Swydd | brenin Gorllewin Francia, Carolingian Roman emperor, king of East Francia |
| Tad | Louis yr Almaenwr |
| Mam | Hemma |
| Priod | Richardis |
| Plant | Bernard |
| Llinach | Y Carolingiaid |
Roedd Siarl Dew, yn swyddogol Siarl III (?, 839 - 13 Ionawr 888) yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig ac yn rheolwr Ymerodraeth y Carolingiaid.
Roedd yn fab i Louis yr Almaenwr a'i wraig Emma. Wedi marwolaeth ei dad yn 876, rhannwyd yr ymerodraeth rhyngddo ef a'i ddau frawd, gyda Carloman a Louis yr Ieuengaf. Daeth Siarl yn frenin Swabia.
Bu farw Carloman yn 880, a daeth Siarl yn dywysog Bafaria a brenin yr Eidal. Ar 12 Chwefror 881, daeth yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Yn 882, bu farw ei frawd arall, Louis yr Ieuengaf, a daeth Siarl yn frenin Ffrancia Ddwyreiniol. Daeth yn frenin Ffrancia Orllewinol yn 884, gan ail-ino'r ymerodraeth.
Ni lwyddodd Siarl i amddiffyn ffiniau'r ymerodraeth, a diorseddwyd ef, gyda'r ymerodraeth yn ymrannu eto. Bu farw yn fuan wedyn yn Neudingen gerllaw Fürstenberg ar Afon Donaw. Ni fu ganddo blant gyda'i wraig, a bu farw ei unig fab gyda gwraig arall yn ieuanc.
| Rhagflaenydd: Siarl II (Siarl Foel) |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 881 – 887 |
Olynydd: Guido III o Spoleto |