Swabia

Oddi ar Wicipedia
Ardal Swabia o fewn ffiniau presennol yr Almaen.
Swabia yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig (map 1572).

Rhanbarth diwyllianol, hanesyddol ac ieithyddol yn yr Almaen yw Swabia (Almaeneg: Schwaben; hefyd Schwabenland neu Ländle ar lafar; ceir y ffurfiau hynafiaethol Suabia a Svebia hefyd weithiau). Mae'n gorwedd yn ne-orllewin yr Almaen gan gynnwys rhan helaeth talaith Baden-Württemberg am y ffin â'r Swistir. Enwir Swabia ar ôl y Suebi, llwyth Germanaidd hynafol.

Roedd Swabia yn un o'r deg Cylch Ymerodrol yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig o 1500 hyd ddiwedd yr Ymerodraeth yn 1806. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn ardal helaethach o lawer, yn ymestyn o fynyddoedd y Vosges yn y gorllewin i Afon Lech yn y dwyrain: roedd y diriogaeth honno'n cynnwys yr Alsace hanesyddol, ardal Baden ar lannau Afon Rhein, yr ardaloedd Almaeneg eu hiaith yng ngogledd y Swistir, talaith Vorarlberg yn Awstria a Thywsogaeth Liechtenstein.

Pobl o Swabia[golygu | golygu cod]

Detholiad o rai Swabiaid adnabyddus:

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.