Hermann Hesse
Hermann Hesse | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Emil Sinclair ![]() |
Ganwyd | 2 Gorffennaf 1877 ![]() |
Bu farw | 9 Awst 1962 ![]() o strôc ![]() Montagnola ![]() |
Man preswyl | yr Almaen ![]() |
Dinasyddiaeth | Y Swistir, yr Almaen, Ymerodraeth Rwsia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, arlunydd, athronydd, darlunydd, ysgrifennwr ![]() |
Adnabyddus am | The Glass Bead Game, Demian, Der Steppenwolf, Siddhartha, Peter Camenzind ![]() |
Mam | Marie Hesse ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Wilhelm Raabe ![]() |
Gwefan | http://www.hermann-hesse.com/ ![]() |
llofnod | |
![]() |
Nofelydd a bardd Almaenig yn yr iaith Almaeneg a ymfudodd i'r Swistir oedd Hermann Hesse (2 Gorffennaf 1877 – 9 Awst 1962) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1946.
Ganed ef yn Calw, Teyrnas Württemberg, yng nghyfnod Ymerodraeth yr Almaen, a chafodd ei fagu yn Calw ac yn Basel yn y Swistir. Mynychodd yr ysgol yn Göppingen, ger Stuttgart, cyn cael ei dderbyn i Goleg Diwinyddol Maulbronn ym 1891. Er yr oedd yn ddisgybl galluog, nid oedd yn hoff o awyrgylch pietistaidd y drefn addysg, a gadawodd y coleg erbyn diwedd ei flwyddyn gyntaf.
Aeth yn brentis mewn ffatri glociau yn Calw, ac yn ddiweddarach yn brentis mewn siop lyfrau yn Tübingen. Ei brif ddyhead oedd i fod yn fardd, a chasgliad o gerddi oedd ei lyfr cyntaf, Romantische Lieder (1898). Gweithiodd yn werthwr llyfrau nes iddo gyhoeddi ei nofel gyntaf, Peter Camenzind, ym 1904 a throi'n llenor llawn-amser ar ei liwt ei hun. Mae ei nofelau cynnar eraill yn cynnwys Unterm Rad (1906), Gertrud (1910), a Rosshalde (1914).
Cafodd Hesse sesiynau â'r seiciatrydd J. B. Lang, un o ddisgyblion Carl Jung, a gwelir dylanwad seicdreiddiad yn ei nofel Demian (1919). Ymwelodd â'r India, ac ysgrifennodd un o'i weithiau amlycaf, y nofel Siddhartha (1922), am hanes y Bwda. Mae ei nofelau diweddarach, gan gynnwys Der Steppenwolf (1927), Narziss und Goldmund (1930), a Das Glasperlenspiel (1943), yn ymwneud â deuoliaeth bywyd.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18), symudodd Hesse i'r Swistir, a oedd yn wlad niwtral, ac yno ysgrifennai ymosodiadau ar filitariaeth a chenedlaetholdeb, a golygydd hefyd gyfnodolyn ar gyfer carcharorion rhyfel Almaenig. Derbyniodd statws preswylydd parhaol ym 1919, a dinasyddiaeth Swisaidd ym 1923. Ymsefydlodd ym Montagnola, yng nghanton Ticino, a bu farw yno ym 1962 yn 85 oed.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) Hermann Hesse. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Medi 2023.
- Beirdd Almaenig y 19eg ganrif
- Beirdd Almaenig yr 20fed ganrif
- Beirdd Almaenig yn yr iaith Almaeneg
- Beirdd Swisaidd yr 20fed ganrif
- Beirdd Swisaidd yn yr iaith Almaeneg
- Enillwyr Gwobr Lenyddol Nobel
- Genedigaethau 1877
- Llenorion straeon byrion Almaenig yr 20fed ganrif
- Llenorion straeon byrion Almaenig yn yr iaith Almaeneg
- Llenorion straeon byrion Swisaidd yr 20fed ganrif
- Llenorion straeon byrion Swisaidd yn yr iaith Almaeneg
- Marwolaethau 1962
- Nofelwyr Almaenig yr 20fed ganrif
- Nofelwyr Almaenig yn yr iaith Almaeneg
- Nofelwyr Swisaidd yr 20fed ganrif
- Nofelwyr Swisaidd yn yr iaith Almaeneg
- Pobl o Baden-Württemberg
- Pobl o Ymerodraeth yr Almaen
- Pobl fu farw yn y Swistir
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Almaenig yr 20fed ganrif
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Almaenig yn yr iaith Almaeneg
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Swisaidd yr 20fed ganrif
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Swisaidd yn yr iaith Almaeneg