Albert Einstein
Albert Einstein | |
---|---|
![]() Albert Einstein yn 1921 | |
Ganwyd |
14 Mawrth 1879 Ulm, Brenhiniaeth Württemberg, Brenhiniaeth yr Almaen |
Bu farw |
18 Ebrill 1955 (76 oed) Princeton, New Jersey, Unol Daleithiau America |
Bu fyw yn | Yr Almaen, yr Eidal, Swistir, Awstria (heddiw yn y Weriniaeth Tsiec), Gwlad Belg, Unol Daleithiau America |
Dinasyddiaeth |
|
Meysydd | Ffiseg, athroniaeth |
Sefydliadau |
|
Alma mater |
|
Thesis | ''Eine neue Bestimmung der Moleküldimensionen[1] (1905) |
Ymgynghorydd Doethuriaeth | Alfred Kleiner |
Ymgynghorwyr academaidd eraill | Heinrich Friedrich Weber |
Enwog am |
|
Dylanwadau | |
Prif wobrau |
|
Priod |
Mileva Marić (1903–1919) Elsa Löwenthal (1919–1936) |
Plant |
Lieserl Einstein (1902–1903?) Hans Albert Einstein (1904–1973) Eduard Einstein (1910–1965) |
Llofnod![]() |
Ffisegydd damcaniaethol a anwyd yn yr Almaen oedd Albert Einstein (14 Mawrth 1879 – 18 Ebrill 1955) (Almaeneg:
[ˈalbɐrt ˈaɪnʃtaɪn] ( gwrando)). Einstein yw un o brif wyddonwyr y byd ac ef yw awdur y damcaniaethau: Perthnasedd cyffredinol a Pherthnasedd arbennig.[2][3] Cafodd ei waith ddylanwad enfawr ar athroniaeth gwyddoniaeth.[4] Mae'n fwyaf adnabyddus am ei hafaliad E = mc2 (a ddisgrifiwyd fel "hafaliad enwoca'r byd").[5] Yn 1921 derbyniodd Wobr Nobel mewn Ffiseg am ei "wasanaeth i Ffiseg ddamcaniaethol", yn enwedig am ei ddarganfyddiad 'yr effaith ffotodrydanol' (photoelectric effect) a oedd yn garreg filltir yn esblygiad ei ddamcaniaeth cwantwm.[6]
Ganwyd Eisntein yn Ulm, Teyrnas Württemberg, yr Almaen a bu farw yn Princeton, New Jersey yn yr Unol Daleithiau.
O gychwyn ei yrfa mewn ffiseg, credodd Einstein fod 'mecaneg Newton' yn annigonol i brofi mecaneg glasurol parthed y maes electromagnetig, ac ymaflodd yn y gewaith o ddatblygu 'Damcaniaeth perthnasedd arbennig' ond cyn hir sylweddolodd y gall damcaniaeth perthnasedd hefyd gael ei ymestyn i feysydd disgyrchiant. Datblygodd hyn oll, gan gyhoeddi papur yn 1916 ac yna ei waith ar berthnasedd cyffredinol. Datblygodd hefyd ei syniadau ar fecaneg ystadegol a damcaniaeth cwantwm, a chyhoeddodd ei syniadau ar ddamcaniaeth gronynnau a moleciwlau symudiad (Brownian motion). Ymchwiliodd i briodweddau tymheredd golau, a ffurfiodd y syniadau hyn gongl-faen ei theori o ffotonau golau.
Yn 1917 cymhwysodd ei ddamcaniaeth perthynasedd cyffredinol i strwythurau enfawr y bydysawd.[7][8]
Pan ddaeth Adolf Hitler yn Ganghellor yr Almaen yn 1933 roedd Einstein yn teithio Unol Daleithiau America; gan ei fod yn Iddew nid aeth yn ôl i'r Almaen, ble roedd yn Athro Prifysgol yn Academi Gwyddoniaethau Berlin. Ymgartrefodd yno gan ddod yn ddinesydd o UDA. Rhybuddiodd yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt o'r posibilrwydd o "ddatblygu bom pwerus iawn" gan annog ymchwil i hynny.[9] Ychydig wedi hyn lansiwyd "The Manhattan Project". Roedd Einstein o'r farn y dylid amddiffyn 'y Cynghreiriaid' ond ciliodd oddi wrth y syniad o ddefnyddio ei ddarganfyddiad newydd (Ymholltiad niwclear) fel arf. Yn ddiweddarach, gyda Bertrand Russell, arwyddodd faniffesto (Russell–Einstein Manifesto) a oedd yn cadarnhau peryglon arfau niwclear.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Einstein (1905b), "Meinem Freunde Herr Dr. Marcel Grossmann gewidmet (Dedicated to my friend, Dr. Marcel Grossmann)".
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Whittaker, E. (1 Tachwedd 1955). "Albert Einstein. 1879–1955". Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society 1: 37–67. doi:10.1098/rsbm.1955.0005. JSTOR 769242.
- ↑ Fujia Yang; Joseph H. Hamilton (2010). Modern Atomic and Nuclear Physics. World Scientific. ISBN 978-981-4277-16-7.
- ↑ Don A. Howard, ed. (2014), Einstein's Philosophy of Science (website), The Metaphysics Research Lab, Center for the Study of Language and Information (CSLI), Stanford University, http://plato.stanford.edu/entries/einstein-philscience/#IntWasEinEpiOpp, adalwyd 2015-02-04
- ↑ David Bodanis (2000). E = mc2: A Biography of the World's Most Famous Equation. New York: Walker.
- ↑ The Nobel Prize in Physics 1921 : Albert Einstein, Nobel Media AB, archifwyd o y gwreiddiol ar 5 Hydref 2008, http://www.webcitation.org/5bLXMl1V0, adalwyd 2015-02-04
- ↑ (PDF) Scientific Background on the Nobel Prize in Physics 2011. The accelerating universe, Nobel Media AB, p. 2, http://www.nobelprize.org/nobel_prizes/physics/laureates/2011/advanced-physicsprize2011.pdf, adalwyd 2015-01-04
- ↑ Overbye, Dennis (24 Tachwedd 2015). "A Century Ago, Einstein's Theory of Relativity Changed Everything". New York Times. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2015.
- ↑ Paul S. Boyer; Melvyn Dubofsky (2001). The Oxford Companion to United States History. Oxford University Press. t. 218. ISBN 978-0-19-508209-8.