Max Planck
Max Planck | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Max Karl Ernst Ludwig Planck ![]() 23 Ebrill 1858 ![]() Kiel ![]() |
Bu farw | 4 Hydref 1947 ![]() Göttingen ![]() |
Man preswyl | Kiel, München ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd, Bizone ![]() |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd damcaniaethol, academydd, ffisegydd, athronydd ![]() |
Swydd | Geheimrat ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Planck's law, Planck constant ![]() |
Plaid Wleidyddol | German People's Party ![]() |
Tad | Wilhelm von Planck ![]() |
Priod | Marie Merck ![]() |
Plant | Erwin Planck ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Ffiseg Nobel, Adlerschild des Deutschen Reiches, Max Planck Medal, Gwobr Goethe, Medal Copley, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Lorentz Medal, Harnack medal, Medal Helmholtz, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Medal Liebig, Medal Franklin, doethuriaeth anrhydeddus o Brifysgol Genedlaethol Kapodistrian, Athen, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, Honorary doctor of the Technical University of Berlin, Guthrie Lecture, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Roedd Max Karl Ernst Ludwig Planck (23 Ebrill 1858 – 4 Hydref 1947) yn ffisegydd o Almaenwr. Ef a luniodd y ddamcaniaeth cwantwm.
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd yn Kiel, a hanai Planck o deulu dawnus; roedd nifer o aelodau o'r teulu wedi gwneud gwaith ymchwil mewn amryw o feysydd academaidd. Roedd ei dad yn athro coleg yn y gyfraith. Pan oedd Planck yn llanc symudodd y teulu i München yn dilyn penodiad ei dad yn athro yn y coleg.
Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]
Dechreuodd Planck astudio ffiseg yn München yn 1874, gan raddio'n athro yn 1878. Derbyniodd radd doethur yn 1879 a gradd uwch-ddoethur Privatdozent yn 1880.
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1885 penodwyd Planck yn athro cyswllt (heb gadair) ym maes Ffiseg Damcaniaethol yn Göttingen. Yn 1889 fe'i penodwyd yn athro (gyda chadair) yn Berlin.
Darganfyddiadau ffiseg[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1900 darganfu Planck ddeddfau pelydriad thermol a thrwy'r gwaith hwnnw lluniodd y ddamcaniaeth cwantwm. Derbyniodd y Wobr Nobel ar gyfer Ffiseg yn 1918 ar sail ei waith ar y ddamcaniaeth cwantwm. Bu'n meithrin doniau Albert Einstein, gan ddechrau yn 1905, ond yn wahanol i Einstein, arhosodd yn yr Almaen yn ystod cyfnod y Natsïaid.
Manylion personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Priododd Planck ddwywaith. Cafodd 5 o blant ond bu tri ohonynt farw'n ifainc. Bu farw Planck o'r diciâu yn Göttingen.