Prifysgol Christian Albrecht Kiel

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol Kiel
Sêl y brifysgol.
Mathprifysgol gyhoeddus, Local Internet registry, comprehensive university Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlChristian Albert I Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1665 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadKiel Edit this on Wikidata
SirKiel, Schleswig-Holstein Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau54.3389°N 10.1225°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganChristian Albert I Edit this on Wikidata

Prifysgol ymchwil gyhoeddus yn yr Almaen yw Prifysgol Christian Albrecht Kiel (Almaeneg: Christian-Albrechts-Universität zu Kiel, CAU), a elwir yn anffurfiol gan yr enw Lladin Christiana Albertina, a leolir yn Kiel yn nhalaith Schleswig-Holstein.

Sefydlwyd ym 1665 ar ffurf yr Academia Holsatorum Chiloniensis gan Christian Albrecht, Dug Schleswig-Holstein-Gottorf, wedi cyfnod hir o frwydro yn yr Almaen a Llychlyn. Efelychir gobeithion am y dyfodol yn yr arwyddair Pax Optima Rerum ("gorau peth, heddwch"). Agorodd ar safle'r hen fynachlog Ffransisgaidd yn Kiel, ac yno darlithiodd athrawon ar ddiwinyddiaeth, y gyfraith, meddygaeth, ac athroniaeth. Darparwyd arian a llyfrau gan yr academi gyfagos yn Bordesholm.[1]

Parhaodd y brifysgol drwy gyfnodau o gythrwfl gwleidyddol a milwrol, er iddi ddirywio o ganlyniad i ddiffyg arian. Daeth dan reolaeth Rwsia, a fe'i adferwyd a diwygiwyd gan Caspar von Saldern, a benodwyd yn stiward Schleswig-Holstein gan yr Ymerodres Catrin Fawr. Yn sgil dychwelyd y dugiaethau i Ddenmarc–Norwy ym 1773, blodeuai Kiel fel "y brifysgol fwyaf gogleddol yn yr Almaen a'r brifysgol fwyaf deheuol yn Llynchlyn".[1] Cyfeddiannwyd y dugiaethau i Brwsia ym 1864 a châi'r brifysgol ei darostwng i reolau a threfn addysg Brwsiaidd. Cynnyddodd niferoedd y myfyrwyr yn niwedd y 19g, a chodwyd adeiladau newydd gan gynnwys llyfrgell, amgueddfa sŵolegol, a labordai.

Ymhlith yr academyddion o nod i addysgu yn Kiel mae'r enillwyr Nobel Philipp Lenard (Ffiseg, 1905), Max Planck (Ffiseg, 1918), ac Otto Diels (Cemeg, 1950). Mae cyn-fyfyrwyr enwog yn cynnwys yr hanesydd a diplomydd Barthold Georg Niebuhr, yr hanesydd ac ieithegwr Theodor Mommsen, a'r anthropolegydd Franz Boas.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "History of Kiel University", Christian-Albrechts-Universität zu Kiel. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2023.