Neidio i'r cynnwys

Thermodynameg

Oddi ar Wicipedia

Cangen o ffiseg ydyw Thermodynameg (Groeg:δυναμις, dynamis, sy'n golygu "pŵer") sy'n ymwneud â gwres a thymheredd a'u perthynas i ynni a gwaith. Mae'n diffinio newidiadau macrosgopig megis egni mewnol, entropi a gwasgedd, sy'n disgrifio corff o fater neu ymbelydredd. Mae thermodynameg yn nodi fod y newidiadau hyn yn cael eu rheoli gan gyfyngiadau cyffredinol, a bod y cyfyngiadau hyn yn wir am bob mater. Mynegir y cyfyngiadau hyn gan bedair rheol euraidd thermodynameg. Does a wnelo thyrmodynameg ddim iot ag ymddygiad microsgopig mân bethau megis moleciwlau, ond yn hytrach mae'n canolbwyntio ar ymddygiad y corff cyfan. Mae'n astudiaeth o'r trawsnewidiad o egni gwres i ffurfiau gwahanol o egni (yn enwedig ffurfiau mecanyddol, cemegol, ac ynni trydanol).

Mae canlyniadau sylfaenol thermodynameg yn ddibynnol ar fodolaeth elfennau delfrydol o ecwilibriwm thermodynamig. Caiff y deddfau eu diffinio a'u harddangos drwy fecaneg ystadegol, yn nhermau cyfansoddion (neu'r rhannau bach) microsgopig.

Gellir cymhwyso thermodynameg i sawl pwnc gwyddonol a pheirianyddol, yn enwedig: cemeg, cemeg perianyddol, a pheirianneg mecanyddol.

Yn hanesyddol, roedd astudiaethau thermodynameg yn ceisio cynyddu effeithlonrwydd y tren stêm cynnar.