Peirianneg gemegol
Delwedd:Chemengg.jpg, Colonne distillazione.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | Gwyddoniaeth gymhwysol, cangen o fewn cemeg, pwnc gradd, cangen o beirianneg, disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | peirianneg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cangen o wyddoniaeth o fewn ffiseg, ac yn benodol thermodynameg, yw peirianneg gemegol. Mae'n cymhwyso'r gwyddorau ffisegol a bywyd ynghyd â mathemateg gymhwysol ac economeg i gynhyrchu, trawsnewid a defnyddio cemegolion. Mae'r gwyddorau ffisegol yn cynnwys ffiseg a chemeg a gwyddorau bywyd yn cynnwys microbioleg a biocemeg. Gwaith y peiriannydd cemegol, mewn gwirionedd, yw cynllunio ar raddfa fawr prosesau sy'n trawsnewid cemegolion, defnyddiau craidd, celloedd byw, micro-organebau ac ynni yn gynnyrch defnyddiol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Tad peirianneg gemegol oedd George E. Davis a ddysgodd y pwnc yng Ngholeg Owens, Manceinion (bellach, Victoria University of Manchester) ac a sgwennodd History of Science in United States: An Encyclopedia yn 1890. Ef hefyd a fathodd y term chemical engineering yn Saesneg.[1][2] Tua'r un pryd, dysgwyd y pwnc yn MIT yn Unol Daleithiau America a hefyd yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Bodo Linnhoff, Llanbedr Dyffryn Clwyd, cemegydd peirianyddol; sefydlydd y cysyniad o 'dechnoleg pinch'.
- Rhisiart Morgan Davies, ffrwydron
- Humphrey Owen Jones (1878–1912)
- Yr Athro Brian David Josephson (ganwyd 1940, Caerdydd)
- Evan James Williams (1903–1945), Pelydr-X a ffiseg gronynnol
- Evan Jenkin Evans (1882–1944), athro prifysgol; spectroscopi
- Microfioleg
- Owens College, Manceinion
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cohen 1996, t. 174.
- ↑ Reynolds 2001, t. 176.