Peirianneg

Oddi ar Wicipedia
Peiriant ager Watt

Cymhwysiad egwyddorion gwyddonol a mathemategol i ddatblygiad datrysiadau i broblemau technegol yw peirianneg, ac felly creu cynnyrch, cyfleusterau, ac adeiladwaith sy'n ddefnyddiol i bobl.

Crewyd cryn dipyn o amwysedd yn yr agwedd Brydeinig at y pwnc gan yr arferir y gair "Engineering" am y maes, gair sydd yn cyfleu syniad o rywun sydd yn gweithio gyda peiriannau budron. Yn Ffrainc defnyddir y gair "Ingenieur" sydd yn cyfleu syniad o ddyfeisgarwch - syniad sydd yn gweddu'n well i'r gwaith ar level broffesiynnol. Gan y cyreirir yn aml at y crefftwyr sydd yn trwsio peiriannau fel injenni golchi fel "engineers" nid yw hyn yn codi statws y peiriannydd professiynnol. Efallai mae'r Sieineeg sydd orau gan mai'r gair a ddefnyddir yno yw 工程师(gong1cheng2shi1) sy'n golgu meistr prosiect.

Er fod y maes yn un hen iawn - peiriannwyr a gododd pyramidau'r Aifft - yn y maes milwrol yn bennaf bu y rhelyw o brosiectau mawr. Dyma sydd wrth wraidd y term "Peiriannydd Suful (Civil Engineer)", lle y mae'r gair "suful" yn golygu mai gweithio y tu allan i'r maes milwrol y mae'r peiriannydd. Corff proffesiynnol peiranyddion suful yw'r ICE (gweler [1].

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol daeth y Peiriannydd Mecanyddol i'r blaen a dyma'r adeg y sefydlwyd yr IMechE, corff proffesiynol peirianyddion mecanyddol (gweler [2].

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol aed ati i wella technegau cynhyrchu. Un o'r peiriannyddion mwyaf blaenllaw yr adeg honno oedd Richard Roberts o Garreghofa a wnaeth lawer i wella safon peirianneg manwl trwy ddatblygu y turn a peiriannau tebyg.

Yn ddiweddarach sefydlwyd cyrff eraill ar gyfer peirianeg trydanol, electronic, cynhyrchu, acwsteg ac ati.

Mae gwaith y peiriannydd proffesiynnol (yn aml yn beiriannydd siartredig) yn gymysgedd o wyddoniaeth, mathemateg a busnes. Rhaid iddo/iddi gadw llygad ar gost prosiect, boed yntau (neu hithau) yn gweithio yn y sector breifat ynteu'r sector gyhoeddus.

Ceir hefyd y peiriannwr ymgynghorol sydd yn cynghori ar faterion yn ei faes, gan amlef mewn adroddiad. Un o'r cwmniau mwyaf blaenllaw yn y maes hwn ydyw cwmni Atkins.

Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato