Peiriant ager

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am tua chanrif a hanner, peiriannau ager a ddefnyddid ar y rheilffyrdd trwy'r byd. Mae'r injian hon yng Ngwlad Pwyl.

Unrhyw beiriant sy'n defnyddio ager (neu 'stêm') fel pŵer yw peiriant ager. Daeth y peiriannau hyn yn arbennig o bwysig tua diwedd y 18fed ganrif ac yn ystod yn 19eg ganrif.

Ceir cofnod am beiriant ager tua 80 OC, peiriant a elwid yr aeolipile a ddisgrifir gan Hero o Alexandria. Nid oes cofnod i beiriant ager gael ei ddefnyddio ar gyfer pwrpas ymarferol yn y cyfnod yma, fodd bynnag. Yn 1712 datblygodd Thomas Newcomen beiriant ager y gellid ei ddefnyddio, er enghraifft mewn mwyngloddiau. Datblygwyd y peiriant gan James Watt, a gynhyrchodd beiriant oedd yn defnyddio 75% yn llai o lo i gynhyrchu'r ager na pheiriant Newcomen, ac y gellid ei ddefnyddio i redeg peiriannau ffatrioedd diwydiannol. Cafodd hyn ddylanwad aruthrol ar ddatblygiad y Chwyldro Diwydiannol.

Dangosodd y peiriannydd Trevithick y gellid defnyddio peiriant ager (neu injian stem) i dynnu tren rheilffordd. Gwnaeth hyn ar dramffordd Pen y Darren. Defnyddid injenni stem ar Reilffordd Stockton a Darlington ond y Roced (Rocket) a enillodd Cystadleuaeth Rainhill oedd yr injian a ddangosodd wir botensial y peiriant. Un o nodweddion yr injian hon oedd bwyler gyda nifer o diwbiau tan i hwyluso berwi dwr y bwyler.

Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, roedd peiriannau ager wedi dod yn bwysig mewn trafnidiaeth, ar gyfer trenau a llongau. Erbyn hyn, mae llai o ddefnydd arnynt, ond mae ymchwil yn parhau ar dechnoleg peiriannau ager. Er enghraifft, defnyddir pwer yr haul yn Sbaen wedi'i ffocysu ar beiriant ager mawr, a hwnnw yn ei dro'n roi tyrbein ac yn creu trydan.[1]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]