Immanuel Kant

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Immanuel Kant
Kant foto.jpg
Ganwyd 22 Ebrill 1724 Edit this on Wikidata
Königsberg Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Chwefror 1804 Edit this on Wikidata (79 oed)
Königsberg Edit this on Wikidata
Man preswyl Königsberg Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Königsberg
Galwedigaeth athronydd, anthropolegydd, ffisegydd, llyfrgellydd, awdur, addysgwr, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Königsberg
Gwaith nodedig Critique of Pure Reason, Critique of Practical Reason, Critique of Judgment, Prolegomena to Any Future Metaphysics, Answering the Question: What is Enlightenment?, The Metaphysics of Morals, Religion within the Bounds of Bare Reason Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad David Hume, George Berkeley, Christian Wolff, Jean-Jacques Rousseau, Francis Hutcheson, Isaac Newton, Platon, Johannes Nikolaus Tetens, Miquèu Eiquèm de Montanha, René Descartes, Gottfried Wilhelm von Leibniz, John Locke, Nicolas Malebranche, Baruch Spinoza Edit this on Wikidata
Tad Johann Georg Kant Edit this on Wikidata
Llofnod
Immanuel Kant signature.svg

Athronydd Almaenig oedd Immanuel Kant (22 Ebrill 172412 Chwefror 1804). Roedd yn un o feddylwyr mwyaf dylanwadol Cyfnod yr Ymoleuo a chaiff ei ystyried yn un o athronwyr mwyaf canolog athroniaeth fodern.

Dadleodd fod rhai cysyniadau sylfaenol yn strwythur i holl brofiadau'r ddynolryw ac mai tarddiad moesoldeb yw rheswm. Mae'r syniadau hyn yn parhau i fod yn ddylanwadol o fewn: metaffiseg, moeseg, athroniaeth wleidyddol ac estheteg.[1]

Plentyndod ac addysg (1724–45)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Immanuel Kant yn Königsberg, prifddinas Dwyrain Prwsia (heddiw Kaliningrad, Rwsia), ar 22 Ebrill 1724. Fe'i bedyddiwyd yn Emanuel, ond newidiodd ei enw i Immanuel wedi iddo ddysgu Hebraeg.[2] Roedd ei dad, Johann Georg Kant (1682–1746), yn grefftwr o ardal Memel (Klaipėda), Lithwania erbyn hyn, ac ef yn fab i ymfudwr Albanaidd. Yn ôl tystiolaeth Immanuel, fe adawodd ei daid yr Alban tua diwedd yr 17g oryd yr ymfudodd nifer fawr o Albanwyr i diriogaethau Prwsia ar lannau'r Môr Baltig. Ni wyddys ddim am alwedigaeth neu dref enedigol taid Kant, ond pan gyrhaeddodd Prwsia fe ymsefydlodd yn barhaol yn Tilsit. Ymddengys, pa fodd bynnag,iddo fod yn aros am dymor yn flaenorol i hynny ym mhorthladd Memel, ac yn agos i'r fan honno y ganwyd tad yr athronydd. Symudodd Johann pan yn ifanc i Königsberg, lle y dysgodd crefft y cyfrwywr. Roedd y ddealltwriaeth a'r crefyddoldeb a nodweddai'r Albanwyr yn fynych i'w canfod yn amlwg ynddo, a chafodd gydymaith o gyffelyb feddwl yn ei wraig, Anna Regina Reuter (1697–1737), Almaenes ethnig o Nürnberg, a oedd yn nodedig am nerth ei meddwl a'i hysbryd crefyddol. I rinweddau ei rieni yr oedd Kant bob amser yn ymhyfrydu dwyn tystiolaeth anrhydeddus, ac yr oedd delw ei fam yn enwedig, i'r hon yr oedd yn dwyn tebygrwydd neillduol, wedi ei hargraffu yn annileadwy ar ei feddwl.

Immanuel oedd y pedwerydd o 11 o blant, y rhai, gan fwyaf, a fuont feirw yn eu mabandod. Ni chyrhaeddodd un ohonynt, heblaw efe, unrhyw enwogrwydd. Er nad oedd amgylchiadau ei rieni ond prin yn eu cadw allan o ddyled, ymdrechasant yn egnïol i roddi addysg dda i'w plant. Am mai Immanuel a ddangosai ei fod yn feddiannol ar y talentau mwyaf gobeithiol o bawb yn y teulu – er ei fod ef yn ei gyhuddo ei hun o ddiofalwch a diogi – penderfynwyd ei ddwyn i fyny i ryw alwedigaeth ddysgedig. Bwriadwyd ar y cyntaf iddo astudio diwinyddiaeth yn bennaf. A phan yn 10 mlwydd oed, aeth i Goleg Frederick, athrofa glasurol oedd ar y pryd hwnnw o dan lywyddiaeth y Dr Schultz, un o glerigwyr y ddinas. Dyn ag enw rhagorol oedd Schultz, a'i fanylrwydd crefyddol a achosai i wawdwyr ddyfod â'r cyhuddiad o ordduwioldeb yn ei erbyn, er ei fod yn ddisgybl enwog i'r athronydd Wolff, ac yn athro yn y brifysgol. O dan ddylanwad y golygiadau hyn, wrth ba rai yr oedd ei rieni yn ymlynu yn y modd mwyaf difrifol, y cafodd y bachgen Immanuel ei fagu, ac er iddo wedi hynny ymwrthod ag athrawiaethau ei addysgwyr, yr oedd yr argraff foesol a wnaethant yn amlwg arno i'r diwedd ym mhurdeb ei fywyd, ac yn rhagoriaeth ei gyfundrefn o foesddysg. Roedd yn ystod y saith mlynedd y bu yn yr athrofa hon yn cael ei nodweddu gan ei frwdfrydedd dros y clasuron, yn astudiaeth pa rai yr oedd yr ieithydd enwog Ruhnken yn gydefrydydd ag ef. Nid amlygodd y tueddfryd lleiaf at olrheiniadau arddansoddol yn yr adeg hon.

Aeth Kant y llanc i Brifysgol Königsberg yn y flwydyn 1740 fel efrydydd diwinyddol, a phregethai yn achlysurol yn eglwysi'r wlad o amgylch. Gadawodd y cwrs hwn, pa fodd bynnag, yn fuan, ac ymroddodd i astudio rhif a mesur a gwyddoniaeth naturiol, ond hyd yma heb arwyddo ei fod yn meddu dim chwaeth at athroniaeth feddyliol. Meistrolodd holl weithiau Newton ar riff a mesur mewn amser byr, ac y mae ei holl weithiau yn ôl llaw yn profi mor gyfarwydd ydoedd yn yr efrydiaeth honno. Yn ystod y blynyddoedd diweddaf y bu yn y brifysgol, yr oedd amgylchiadau cyfyng ei dad (yr oedd ei fam wedi marw) yn gorfodi Kant i geisio ennill ychydig tuag at ei gynhaliaeth ei hun, drwy roddi gwersi personol i amryw yn Königsberg.

Gweithiau cynnar (1746–54)[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw ei dad ym 1746, a llwyr ddiflanodd am dymor y gobeithion hynny y bu yn eu coleddu am fod yn alluog i weithio ei hun i awydd yn y brifysgol. Cymerodd swydd athro teulu mewn lle oedd yn gryn bellter o'i dref enedigol – er, dyler nodi, ni deithiodd Kant ymhellach na 160 km o Königsberg drwy gydol ei holl oes.[3] Yn y sefyllfa hon fe dreuliodd naw mlynedd gorau ei oes, o 1746 i 1755, gan gyfnewid y naill deulu am y llall, ac yn y diwedd dychwelodd i'w hoff Königsberg gyda theulu rhyw bendefig o'r enw Kayserling. Ymddengys fod yr arglwyddes yr oedd Kant yn athro i'w phlant wedi darganfod ei alluoedd anghyffredinol, a'r rhai ni ddiangasant yn hollol ddisylw mewn teuluoedd eraill. Er holl gŵynion Kant fod y dull hwn o fyw yn cyfodi yn fyw oddi ar angenrheidrwydd nag o'i ddewisiad ef, mae'n sicr ei fod wedi helaethu ei wybodaeth am y byd, ac wedi bod yn foddion i ychwanegu at ei ragoriaethau eraill a amlygai byth wedi hynny: ei deleidrwydd a'i goethder mewn cymdeithas. Yn gynnar yn y cyfnod hwn, ac efe dim ond yn 22 oed, cyhoeddodd ei waith cyntaf, Gedanken von der wahren Schatzung der lebendigen Kräfte ("Meddyliau ar Wir Fesur Grym Bywyd", 1747). Yn y llyfr hwnnw fe gyflwynodd wrthbrawf craff a gorchestol i athrawiaeth Leibniz.

Athro yn Königsberg (1755–69)[golygu | golygu cod y dudalen]

Dychwelodd yn ôl i'r brifysgol ym 1755, a chafodd ganiatâd i fod yn ddarlithydd neillduol ynddi. Wrth ymaflyd yn y gorchwyl hwn fe draddododd ddwy ddarlith, un ar bwnc gwres a'r llall ar egwyddorion cyntaf gwyddoniaeth arddansoddol. Aeth 15 mlynedd heibio arno yn y sefyllfa israddol hon, pryd y darlithiodd ar argos bob peth o fewn cylch gwybodaeth ddynol. Ar y cyntaf amlygai fwy o hoffter at y gwyddorau anianyddol, gan wneud athroniaeth feddyliol yn ail beth iddo. Roedd yn nodedig o hoff o ddaearyddiaeth anianyddol, a chadwodd yr hoffter hwn ei afael arno pan yr oedd pynciau eraill yr ymhyfrydai ynddynt yn moreu ei oes wedi eu rhoddi o'r neilltu. O'r dechreuad yr oedd ei ddarlithiau yn dra phoblogaidd, a gelwid arno yn aml i draddodi cyfresi arbennig ger bron enwogion, tra ar yr yn pryd yr oedd yr ystafell yn yr hon y darlithiai yn wastad yn orlawn o wrandawyr astud.

Tra'n cyflawni yn ymroddgar a selog ei ddyletswyddau cyhoeddus, arferai gyhoeddi yn awr ac eilwaith, yn y cyfnod 1755–1770, gyfres o draethodau. O'r rhain, y mwyaf nodedig yw Allgemeine Naturgeschichte und Theorie des Himmels ("Hanes Naturiol y Bydysawd a Damcaniaeth y Nefoedd") a gyhoeddwyd yn ddienw ym 1755, ac a gyflwynwyd gan ei awdur i Ffredrig Fawr. Mae'n cynnwys ymgais eofn i gefnogi'r ddamcaniaeth Newtonaidd o ffurfiad gwreiddiol y gyfundrefn blanedol, a hynodir y gwaith hwn am y ceir ynddo, ymhlith rhagdybiau eraill, fath o ragfynegiad am ddarganfyddiad planedau ychwanegol, megis Wranws a Neifion, a bod y Llwybr Llaethog yn cynnwys amryw cysodau'r sêr. O ran arddull, ystyrir y traethawd yn llawn cystal, os nad yn rhagori, ar ddim a gyfansoddodd Kant erioed. Ynghŷd â'i weithiau eraill a gyhoeddwyd ganddo yn y cyfnod hwn, dengys ei fod yn un o'r dosbarth hwnnw o feddylwyr a gynrychiolir gan Aristoteles, Descartes, a Leibniz, a chanddynt grap ar holl feysydd eang gwybodaeth.

Ym 1763, ymddangosodd ei waith galluog Der einzig mögliche Beweisgrund zu einer Demonstration des Daseins Gottes ("Yr Unig Ddadl Bosib er Profi Bodolaeth Duw"). Yma fe esyd i lawr yr ymresymiad ar sail cynllun, gan ddadlau nad ydyw'n ei hystyried yn arddangosiadol. Mae arddangosiad Kant ei hun yn gorffwys ar yr angenrheidrwydd am Dduw i roddi cyfrif am bosibilrwydd dansoddol pethau. Mae'r ddadl felly yn rhan o athroniaeth Christian Wolff, er yr oedd Kant wedi hynny yn dadlau'n egnïol yn erbyn Wolff.

Cyhoeddodd ei draethawd mawr nesaf, Untersuchungen über die Deutlichkeit der Grundsätze der natürlichen Theologie und der Moral ("Ymchiliad i Eglurder Egwyddorion Diwinyddiaeth Naturiol a Moesoldeb"), ym 1764. Am yr hwn y derbyniodd yr ail wobr o Brifysgol Berlin. Enillwyd y flaenaf gan Moses Mendelssohn, yr hwn yn fuan a ddaeth yn ohebydd cyson iddo, ac mewn amryw bethau yn wrthwynebwr cyfeillgar. Darfu i'r ysgrifeniadau hyn, ynghŷd â rhifedi cynyddol ei ysgolheigion, ledaenu ei glod yn raddol dros yr holl wlad, a rhoddi iddo le gyda Sulzer, Lambert, a Garve, ymysg prif oleuadau athroniath Almaenig. Bu yn hir, pa fodd bynnag, cyn ennill safle wrth ei fodd yn ei brifysgol ei hun.

Cynigiwyd y swydd o athro barddoniaeth iddo ym 1764, ond fe wrthododd hi. Y swydd gyntaf yr apwyntiwyd ef iddi mewn cysylltiad uniongyrchol â'r brifysgol ydoedd ceidwad y llyfrgell ymherodrol, am yr hyn y derbyniai tâl cymedrol. Nodwyd ef iddi ym 1766, fel person oedd yn meddu "pob cymhwysder i'w gweinyddu, ac yn enwog am ei ysgrifeniadau dysgedig".

Athro llawn a'r bwlch yn ei waith (1770–80)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1770, wedi iddo wrthod cynigion rhagorol o brifysgolion Erlangen a Jena, efe a ddyrchafwyd, fel gwobr ei amynedd, yn athro rhesymeg ac athroniaeth feddyliol yn Königsberg. Ar yr achlysur hwn y traddododd efe ei ddarlithiau enwog De mundi sensibilis atque intelligibilis forma et principiis ("Ffurf ac egwyddorion y byd synwyradwy a dealladwy", 1770), sydd yn cynnwys eginyn ei holl athroniaeth, ac sydd yn profi ei fod y pryd hwn yn feddiannol ar yr agoriad i'w ddarganfyddiadau dyfodol.

Ar wahân i draethawd ar bwnc hil ym 1785 (Über die verschiedenen Rassen der Menschen), ni chyhoeddodd Kant yr un waith yn y cyfnod rhwng ei benodi'n athro llawn ym 1770 a'i gampwaith cyntaf ym 1781.

Cyfnod y Kritiken (1781–90)[golygu | golygu cod y dudalen]

O'r braidd y gellir cyfeirio at un meddwl mawr yn aeddfedu mor araf a'r eiddo ef. Ar ôl 11 mlynedd chwaneg o astudiaeth ddwys ac amyneddgar, yn ystod pa rai yr oedd yn ddarostyngedig i afiechyd yn aml, y cyflwynodd efe ei gyfundraeth yn gyflawn i'r byd. Cyhoeddwyd ei Kritik der reinen Vernunft ("Ymdriniaeth â Rheswm Pur") yng Ngorffennaf 1781, a'r hwn yn ddiau yw ei gampwaith mawr. Cyflwynwyd ef i'r Barwn Von Zedlitz, gweinidog cyhoeddus addysg ym Mhrwsia a dyn o feddwl grymus a haelfrydig a oedd wedi anrhydeddu Kant â llawer o arwyddion o'i ffafr, ac wedi ceisio, ond yn ofer, ganddo symud i Halle, ym 1778, lle y cawsai gymaint ddwywaith o gyflog, a chylch eangach i weithredu ynddo. Cynwysai'r gwaith hwn adolygiad cyflawn ar wyddoniaeth arddansoddol, ac hwn yw'r gwaith pwysicaf ar athroniaeth oedd wedi ymddangos er y pryd y daeth allan Meditationes de prima philosophia gan Descartes, neu An Essay Concerning Human Understanding gan Locke. Y gwaith mawr cyntaf o'r natur yma a ymddangosodd yn yr iaith Almaeneg ydoedd traethawd Kant. Rhoes derfyn am byth ar dybiau arddansoddol Leibniz a Wolff, tra ar yr un pryd y ceisiai ymestyn y tu hwnt i gyfundrefn amheuol Hume, a phenderfynu yn anffaeledig gynhwysiad a chyffiniau gwybodaeth athronyddol. Ceir rhyw fraslinelliad ymlaen o'r hyn a ddysga, a ddengys i ryw raddau ei gwreiddiolder anghyffredinol, a'r nerth meddyliol cywrain oedd yn angenrheidiol er ei chynhyrchu. Gallesid yn naturiol ddisgwyl mai graddol ar y cyntaf a fuasai y derbyniad a gawsai y fath waith. Gwnaed amryw adolygiadau dichellgar a brwnt arno, un o ba rai yn arbennig a'i condemniai fel cyfundraeth o ddychmygion; ond y man y gorffwysai y perygl mwyaf oedd iddo syrthio i ebargofiant cyn i'w wir werth gael ei ddarganfod. Gan hynny, ym 1783, cyhoeddodd Kant fath o esboniad ar ei waith mawr, ynghyd ag atebiad i'w feirniaid, o dan y teitl Prolegomena zu einer jeden künftigen Metaphysik ("Rhagarweiniad i unrhyw Fetaffiseg a ddaw"). Gwnaeth y traethawd poblogaidd hwn argraff neilltuol, a gellir ei ystyried yn arweiniad i mewn i athroniaeth Kant, a'r rhagoraf a ysgrifenwyd. Yn raddol tynodd y gyfundraeth newydd sylw cyffredinol, ac achlysurodd ddadl ddigyffelyb. Galwyd am ail argraffiad o'r Kritik der reinen Vernunft ym 1787, ac yn yr argraffiad hwn cymedrolodd yr awdur rai o'i syniadau, mewn trefn i ochelyd y cyhuddiad o fod yn ddychmygol, ond ar ôl hyn ni wnaed un cyfnewidiad yn y gwaith.

Yn y cyfamser, llafuriodd Kant gydag ymroddiad digyffelyb i ddatblygu yn llawn holl egwyddorion ei athroniaeth, er ei fod yn awr uwchlaw trigain mlwydd oed. Ymddangosodd ei Grundlegung zur Metaphysik der Sitten ("Amlinelliad Metaffiseg Foesol") ym 1785, ei Metaphysische Anfangsgründe der Naturwissenschaft ("Sylfeini Metaffisegol Gwyddoniaeth Naturiol") ym 1786, ei Kritik der praktischen Vernunft ("Ymdriniaeth â Rheswm Ymarferol") ym 1788, a'i Kritik der Urteilskraft ("Ymdriniaeth â Barnu") ym 1790. I ryw fesur, yr olaf o'r rhain a gwblhaodd ei gyfundraeth, ac yn yr hwn y cymhwysa ei egwyddorion at y prif gelfyddydau a diwinyddiaeth naturiol. Yn ei thro, tynodd ei gyfundraeth o foesddysg agos gymaint o sylw a'i un ddamcaniadol. Gwnaeth y grym â pha un y gosododd efe allan y gyfraith foesol fel rheol benodo bywyd a chyfarwyddyd pendant rheswm ei hun, ac y condemniai y gwaith o gymysgu unrhyw syniad arall â'r prif gymhellydd hwn, argraff ddofn. Roedd ei gyfundraeth ddamcaniadol yn ymddangos fel pe buasai yn cau y draws ar bob cymundeb rhwng y meddwl dynol a'r Anfeidrol, ond yr oedd ei athrawiaeth am reswm ymarferol yn symud ymaith y rhwystr, ac yn cysylltu dyn â'i ddyletswydd hanfodol, ac yn ei arwain yn ôl i bob diben ymarferol at y gwirionedd hanfodol.

Er gwaethaf ei aneglurder mynych, yr ymadroddion dieithr a ddefnyddiwyd ganddo, a'i wrthwynebiad i'r cyfundraethau eraill, y rhai y rhoddwyd derbyniad iddynt, gwnaeth athroniaeth Kant gynnydd cyflym yn yr Almaen. Ymhen deg neu ddeuddeg o flynyddoedd ar ôl cyhoeddiad y Kritik der reinen Vernunft, yr oedd yn cael ei ddysgu yn yr holl brifysgolion, ac hyd yn oed yn rhai o athrofeydd y Pabyddion. Roedd y fath ddynion â Schulze yn Königsberg, Kiesewetter ym Merlin, Jacob yn Halle, Born a Heydenriech yn Leipzig, Schmid yn Jena, Buhle yn Gottingen, Tennemann ym Marburg, a Snell yn Giessen, ynghyd â llawer eraill, yn seilio eu haddysgiaeth athronyddo arno, tra yr oedd diwinyddion fel Tieftrunk, Staudlin, ac Ammon, yn ei gymhwysio yn awyddus a brwdfrydig at athrawiathau a moeswersi Cristnogol. Roedd gwŷr ieuangc yn ymgasglu i Königsberg o bob cyfeiriad i astudio athroniaeth, a ymgymerai y llywodraeth Brwsiaidd â thalu eu treuliau. Ystyrid Kant gan rai fel rhyw fath o ail "Feseia". Arferai boneddigesau dysgedig fynd i Königsberg ar bererindod, ac yr oedd yr holl fyd athronyddol yn cael ei ddosbarthu yn bleidwyr Kant, neu yn wrthwynebwyr iddo. Nid oedd llawer o'r brwdfrydedd hwn ond dros amser, ac megis y bu gyda Reinhold a Fichte, nid oedd yr addolwyr gwresog ond yn rhagargoeli yn aml yr ymosodwyr dyfodol. Bu y warogaeth gyffredinol hon yn hir heb effeithio nemawr ar Kant. Yn ei flynyddoedd diweddaf arferai lefaru am ei gyfundraeth ei hyn fel cyffiniau eithaf athroniaeth, a gwrthwynebai y syniad fod yn bosibl gwellhau arni. Roedd yn parhau, fel arferol, i fynd ymlaen yn ei gwrs cyffredin o ddarlithio a chyfansoddi, ac ysgrifenai o bryd i bryd i'r cyfnodolion llenyddol. Y fwyaf nodedig o'r erthyglau hyn oedd ei adolygiad ar hanes athroniaeth Herder, a wnaeth gythruddo'r awdur hwnnw yn ddirfawr, a'i arweiniodd ymhen rhai blynyddoedd yn ddilynol i hynny i ad-dalu i Kant drwy gyhoeddi ei Metakritik zur Kritik der reinen Vernunft ("Uwch-ymdriniaeth â Rheswm Pur") ym 1799. Ymdrechodd Schiller yn y cyfnod hwn gael gan Kant ysgrifennu i'r Horen, ond parhaodd yn ffyddlon i'r Berlinische Monatsschrift, yn yr hwn yr ymddangosodd y mwyafrif o'i feirniadaethau.

Ei flynyddoedd olaf (1791–1804)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1792, pan yr oedd enwogrwydd Kant ar ei uchaf, daeth i gydgyfarfyddiad poenus â llywodraeth ei wlad gyda golwg ar ei olygiadau crefyddol. Roedd gweinidog arall wedi cymryd lle Von Zedlitz i ofalu am achosion eglwysig a chrefyddol, ac mewn oes oedd yn nodedig am ei diofalwch a'i chyfeiliornadau, gwnaed ymgais i gymhwyso rheol fanwl at weithiau a gyhoeddid ar athroniaeth ddiwinyddol. Nid rhyfedd fod athroniaeth Kant wedi cynhyrfu gwrthwynebiad y rhai oedd yn ymlynu wrth Gristnogaeth hanesyddol, gan nas gellid mewn un modd ei dehongli yn unol â daliadau yr eglwys Lwtheraidd. Dichon y buasai yn ddoethach ganiatáu i'w esboniad ar athroniaeth grefyddol fwynhau yr un hawlfraint a'i weithiau boreuol; o blegid cyn y gallesid distewi Kant rhaid fuasai distewi llawer o ddiwinyddion a flodeuent yn yr Almaen yn yr adeg honno. Barnodd y llywodraeth, pa fodd bynnaf, yn wahanol, ac wedi i'r rhan gyntaf o'i lyfr, Die Religion innerhalb der Grenzen der bloßen Vernunft ("Crefydd o fewn Terfyn Rheswm yn unig"; 1793), ymddangos yn y Berlinische Monatsschrift, gwaharddwyd cyhoeddiad y gweddill ohono, yr hwn sydd yn ymdrin â hynodion Cristnogaeth mewn arddull mwy rhesymolaidd. Wedi i Kant gael ei ommedd fel hyn i gyhoeddi ei waith ym Merlin, gyda chaniatâd athrawon diwinyddol ei brifysgol ei hun efe a'i cyhoeddodd yn llawn yn Königsberg. Darfu i'r llywodraeth, yn cael ei dylanwadu, dybygid, yn llawn cymaint gan arswyd a chasineb at y chwyldroad yn Ffrainc, i'r hwn y tybid fod Kant yn bleidio, yn llawn cymaint a chan gariad at y gwirionedd uniongred, ddial y weithred hon: derbyniodd rybudd dirgelaidd yn ei hysbysu o anfoddlonrwydd y brenin, Frederick William II, ac yn ei rwymo i beidio darlithio nac ysgrifennu ar bynciau crefyddol rhagllaw. Wedi amlygu peth anfoddlonrwydd, cydsyniodd Kant â'r cais, a chadwodd ei ymrwymiad hyd 1797, pryd y bu farw y brenin, ac yn ôl y telerau ar ba rai y deallai ef yr addewid, rhyddhawyd ef.

Cynhyrchodd y digwyddiad hwn, pa fodd bynnag, effaith ddwys ar ei feddwl. Ymneilltuodd o gymdeithas ym 1794, ac yn y flwyddyn ganlynol, rhoes i fyny ei holl ddosbarthiadau ond un ddarlith gyhoeddus ar resymeg neu arddansoddiaeth. Ym 1797, cyn symud ymaith y gwaharddiad a gyhoeddasid ar ei addysgiaeth ddiwinyddol, efe a roddes i fyny ei waith cyhoeddus, wedi bod mewn cysylltiad â'r brifysgol am 42 o flynyddoedd. Gorffenodd amryw draethodau ar anianyddiaeth a moesau yn ystod y flwyddyn honno a'r un ganlynol. Dygwys allan ei Logik ("Rhesymeg"; 1800) a'i Physische Geographie ("Daearyddiaeth Ffisegol"; 1802), yn ystod ei fywyd, yn cael ey golygu gan ei gyfeillion. Ym 1798 yr ymddangosodd ei Der Streit der Fakultäten ("Gwrthdaro'r Galluoedd"), yn yr hwn y mae y syniadau a ddygir ymlaen yn ei waith ar grefydd yn cael eu hargymell o'r newydd, ynghyd â'r ohebiaeth a fu rhyngddo a'i gyhuddwyr.

O'r adeg yr ymneilltiodd Kant o'r gadair athrawol yn y brifysgol, gwanhaodd ei nerth yn gyflym, a gwelwyd arwyddion fod ei feddwl hefyd yn dadfeilio. Mae ei wrthdystiad yn erbyn Fichte, a gyhoeddwyd ym 1799, i'w olrhain, fe allai, i hyn; a dangosodd ei anesmwythder hefyd wrth weld gwrthwynebiad ei ddisgyblion blaenorol i'w awdurdod. Dechreuodd ei gof wanychu, a llafuriai ddydd a nos ar waith mawr – ar y cysylltiad sydd rhwng anianyddiaeth naturiol ac athroniaeth feddyliol; ac erbyn gweled, nid oedd y cyfan ond ail adroddiad o athrawiaethau a gyhoeddasid ganddo o'r blaen. Ym 1802, yr oedd ei aelodau yn gwanhau, yr hyn a barai iddo syrthio yn fynych: effeithiodd hyn y beri iddo dyneru ryw gymaint ar ei ddull caled o fyw, ac hefyd i gydsynio i gymryd cyngor meddygol. Roedd rhyw anesmwythder drwy ei holl gorff. Pallodd ei olwg. Roedd ei ymddiddanion yn gymysgedd anghyffredinol o ddychmygion; ac ar adegau yn unig yr oedd rhyw belydrau o'i rym blaenorol yn fflachio i'r golwg, yn arbenigol pan y cyffyrddid â rhai o'i hoff bynciau mewn gwyddoniaeth naturiol neu ddaearyddiaeth anianyddol. Ychydig o ddyddiau cyn ei farw, gydag ymdrech mawr, efe a ddiolchodd i'w feddyg am ei ffyddlondeb yn ymweld ag ef, drwy ddywedyd, "Nid wyf wedi colli fy nheimlad dros ddynoliaeth eto." Ar 12 Chwefror 1804 bu farw, ar fin ei 80 oed.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (1766) Träume eines Geistersehers
  2. (1770) De mundi sensibilis atque intelligibilis forma et principiis
  3. (1775) Über die verschiedenen Rassen der Menschen
  4. (1781) Argraffiad cyntaf Kritik der reinen Vernunft
  5. (1783) Prolegomena zu einer jeden künftigen Metaphysik
  6. (1784) Beantwortung der Frage: Was ist Aufklärung?
  7. (1784) Idee zu einer allgemeinen Geschichte in weltbürgerlicher Absicht
  8. (1785) Grundlegung zur Metaphysik der Sitten
  9. (1786) Metaphysische Anfangsgründe der Naturwissenschaft
  10. (1787) Ail argraffiad Kritik der reinen Vernunft
  11. (1788) Kritik der praktischen Vernunft
  12. (1790) Kritik der Urteilskraft
  13. (1793) Religion innerhalb der Grenzen der bloßen Vernunft
  14. (1795) Zum ewigen Frieden
  15. (1797) Metaphysik der Sitten
  16. (1798) Anthropologie in pragmatischer Hinsicht
  17. (1798) Der Streit der Fakultäten
  18. (1800) Logik
  19. (1803) Über Pädagogik
  20. (1804) Opus Postumum

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Immanuel Kant (Stanford Encyclopedia of Philosophy)". Plato.stanford.edu. 20 Mai 2010. http://plato.stanford.edu/entries/kant/. Adalwyd 22 Ebrill 2015.
  2. Kuehn, Manfred. Kant: A Biography (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2001), t. 26
  3. Lewis, Rick. 2007. 'Kant 200 Years On'. Philosophy Now. Rhif 62.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.