Michel de Montaigne
Gwedd
| Michel de Montaigne | |
|---|---|
| Ganwyd | 28 Chwefror 1533 Saint-Michel-de-Montaigne |
| Bu farw | 13 Medi 1592 Saint-Michel-de-Montaigne |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | athronydd, cyfieithydd, cyfreithegwr, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, gwleidydd, bardd-gyfreithiwr, moesolwr Ffrengig, ysgrifennwr, bardd, rhyddieithwr |
| Swydd | Maer Bordeaux |
| Adnabyddus am | Essays |
| Tad | Pierre Eyquem de Montaigne |
| Mam | Antoinette Lopez de Villanova |
| Priod | Françoise de La Chassaigne |
| Plant | Léonor de Montaigne |
| Perthnasau | Jean de Ségur, Pierre de Montaigne, seigneur de la Brousse |
| llofnod | |
Awdur o Ffrainc oedd Michel Eyquem de Montaigne (28 Chwefror 1533 – 13 Medi 1592). Ei waith enwocaf yw'r Essais ('Traethodau'), cyfres hir o fyfyrdodau, mewn tair cyfrol, sy'n ymdreiddio i natur y meddwl dynol ac yn rhoi portread cofiadwy o'r awdur ei hun dros y blynyddoedd. Daethant yn boblogaidd iawn a chyhoeddwyd dros gant o argraffiadau. Ar sawl ystyr, yr Essais oedd sail blodeuo athroniaeth yn Ffrainc yn yr 17g a arweiniodd yn ei dro at Oleuedigaeth y 18g.
Cafodd ei eni yn y château de Montaigne yn Périgord, yn fab i Pierre Eyquem, maer Bordeaux, Aquitaine. Cyfaill y bardd Étienne de la Boétie oedd ef. Bu farw Boétie yn 1563 a phriododd Montaigne ei weddw yn 1565.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Essais (1580)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]