Gottfried Wilhelm von Leibniz
Gottfried Wilhelm von Leibniz | |
---|---|
![]() Portread o Leibniz gan Bernhard Christoph Francke (olew ar ganfas) | |
Ganwyd | 1 Gorffennaf 1646 ![]() Leipzig ![]() |
Bu farw | 14 Tachwedd 1716 ![]() Hannover ![]() |
Dinasyddiaeth | Etholaeth Sacsoni ![]() |
Addysg | Baglor yn y Celfyddydau, Meistr yn y Celfyddydau, Bagloriaeth yn y Gyfraith, cymhwysiad, Doethur mewn Cyfraith, Doethur mewn Athrawiaeth ![]() |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor |
|
Galwedigaeth | mathemategydd, cyfreithegwr, ffisegydd, athronydd, diplomydd, hanesydd, llyfrgellydd, cerddolegydd, cyfieithydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, ysgrifennwr, diplomydd, bardd, peiriannydd, swolegydd, archifydd, biolegydd, daearegwr, policy advisor, athronydd y gyfraith, rhesymegwr ![]() |
Swydd | Geheimrat, court counsel, Aulic Council ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Discourse on Metaphysics, Essais de Théodicée, Calcwlws integrol, Stepped Reckoner, Q19234609, Monadology ![]() |
Prif ddylanwad | Platon, Blaise Pascal, Giordano Bruno, Thomas Aquinas, Thomas Hobbes, Aristoteles, Christiaan Huygens, Maimonides, Conffiwsiws, Francisco Suárez, Nicholas of Cusa, Nicolas Malebranche, Jakob Bernoulli, Baruch Spinoza, René Descartes, Awstin o Hippo, Jakob Thomasius, Anselm o Gaergaint, Nicolaus Steno, Erhard Weigel, Jan Ámos Komenský, Plotinus, Ramon Llull, Hypatia, Pierre Gassendi, Giovanni Pico della Mirandola, Duns Scotus, Jacques Bénigne Bossuet, Ibn Tufayl ![]() |
Mudiad | Rhesymoliaeth ![]() |
Tad | Friedrich Leibniz ![]() |
Mam | Catharina Schmuck ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol ![]() |
llofnod | |
![]() |
Athronydd Almaenig oedd Gottfried Wilhelm Leibniz (1 Gorffennaf 1646 – 14 Tachwedd 1716), a anwyd yn Leipzig, yr Almaen.
Yn ogystal â bod yn athronydd, roedd Gottfried Leibniz yn wyddonydd, mathemategydd, llenor, diplomydd a hanesydd.
Gyda'r eglwyswr Ffrengig Bossuet ceisiai ddarganfod modd i gymodi ac uno'r Eglwys Gatholig a'r eglwysi diwygiedig. Tua'r un adeg â Isaac Newton darganfu Leibniz calcwlws a chreodd gyfrifiadur elfennol a oedd yn gallu lluosogi rhifau. Ceisiodd yn ogystal greu iaith artiffisial — y characteristica universalis — a fyddai'n gyfrwng gyffredin i wyddonwyr a meddylwyr ymhob gwlad.
Yn ei gyfrolau athronyddol (yn yr iaith Ffrangeg) Nouveaux Essais sur l'entendement humain (1704), Essais de théodicée (1710) a Monadologie (1714) cyflwynodd a datblygodd athroniaeth ddelfrydol. Yn ôl Leibiniz mae pob bod dynol wedi ei greu o monades a rhyngddynt ceir cytgord rhagosodedig. Ar sail ei astudiaethau daeth i'r casgliad "fod pob dim am y gorau yn y byd gorau o bob byd dichonadwy" (Tout est pour le mieux dans le meilleur des mondes possibles).
Troir y dywediad enwog hwnnw o eiddo Leibniz ar ei ben gan Voltaire yn ei chwedl ddychanol Candide, sy'n ymosod ar Optimistiaeth naiïf y 18g. Mae'n bosibl bod cymeriad Candide yn cynrychioli Leibniz.
Bu farw Leibniz yn Hannover yn 1716, yn 70 oed.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Athronwyr Almaenig yr 17eg ganrif
- Athronwyr Almaenig y 18fed ganrif
- Genedigaethau 1646
- Llenorion ffeithiol Almaenig yr 17eg ganrif
- Llenorion ffeithiol Almaenig y 18fed ganrif
- Llenorion ffeithiol Almaenig yn yr iaith Almaeneg
- Llenorion ffeithiol Almaenig yn yr iaith Ffrangeg
- Llenorion ffeithiol Almaenig yn yr iaith Ladin
- Marwolaethau 1716
- Mathemategwyr Almaenig
- Pobl o Leipzig
- Pobl o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig