Francisco Suárez
Francisco Suárez | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 5 Ionawr 1548 ![]() Granada ![]() |
Bu farw | 25 Medi 1617 ![]() Lisbon ![]() |
Dinasyddiaeth | Sbaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, athronydd, cyfreithegwr, academydd, offeiriad Catholig ![]() |
Cyflogwr | |
Mudiad | School of Salamanca ![]() |
Diwinydd Catholig ac athronydd gwleidyddol o Sbaen oedd Francisco Suárez (5 Ionawr 1548 – 25 Medi 1617). Efe oedd un o brif feddylwyr y Gwrth-Ddiwygiad, ac ymdriniasai ei waith â phynciau'r ddeddf naturiol, hawliau dynol, sofraniaeth, a brenhiniaeth. Yn ei ysgrifau ceir cyfraniad pwysig at athroniaeth y gyfraith a datblygiad cynnar cyfraith ryngwladol. Tynna llawer o'i waith ar ddysgeidiaeth Sant Tomos o Acwin, ac os Tomos oedd y cyntaf a'r pwysicaf o'r athronwyr ysgolaidd gellir ystyried Suárez yn yr olaf o'r traddodiad hwnnw ac olynydd mwyaf y Brawd Du o Acwin.
Roedd Suárez yn awdur hynod o doreithiog, a seiliai'r mwyafrif o'i gyhoeddiadau ar ei ddarlithoedd. Fe'i ystyrir yn ysgolhaig hyddysg a manwl yn ei ddadleuon. Ymhlith ei brif weithiau mae sylwebaeth mewn pum cyfrol ar y Summa Theologica gan Domos o Acwin (1590–1603), Disputationes Metaphysicae (2 chyfrol, 1597), De Legibus (1612), a De Divina Gratia (cyhoeddwyd yn 1620 wedi ei farw).
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Ganwyd yn Granada yn fab i gyfreithiwr cefnog. Cafodd ei addysg yn y gyfraith ganonaidd yn Salamanca o 1561 i 1564, pryd ymunodd â'r Iesuwyr. Fe barhaodd i astudio diwinyddiaeth ac athroniaeth ar ben ei hun. O 1571 i 1580 fe addysgai diwinyddiaeth yng ngholegau'r Iesuwyr yn Ávila, Segovia, a Valladolid. Aeth i Rufain yn 1580 i addysgu yn y Coleg Rhufeinig am bum mlynedd. Dychwelodd i Sbaen yn 1585 i addysgu yn Alcalá a Salamanca. Fe gafodd ei benodi'n athro gan y Brenin Felipe II yn 1593, ac enillodd doethuriaeth o Évora yn 1597. Y flwyddyn honno, fe'i benodwyd i'r broffesoriaeth ddiwinyddol ym Mhrifysgol Coimbra ym Mhortiwgal, a daliai'r swydd honno hyd 1616. Bu farw yn Coimbra yn 69 oed.
Darllen pellach[golygu | golygu cod]
- J.H. Fichter, Man of Spain (1940).
- Thomas U. Mullaney, Suárez on Human Freedom (1950).
- Reijo Wilenius, The Social and Political Theory of Francisco Suárez (Helsinki: 1963).
- Athronwyr gwleidyddol Sbaenaidd
- Athronwyr Sbaenaidd yr 16eg ganrif
- Athronwyr Sbaenaidd yr 17eg ganrif
- Athronwyr ysgolaidd
- Cyfreithegwyr Sbaenaidd
- Diwinyddion Catholig Sbaenaidd
- Diwinyddion Sbaenaidd yr 16eg ganrif
- Diwinyddion Sbaenaidd yr 17eg ganrif
- Genedigaethau 1548
- Llenorion ffeithiol Sbaenaidd yr 16eg ganrif
- Llenorion ffeithiol Sbaenaidd yr 17eg ganrif
- Marwolaethau 1617
- Pobl o Granada
- Ysgolheigion Sbaenaidd yn yr iaith Ladin