Duns Scotus
Duns Scotus | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Doctor Subtilis ![]() |
Ganwyd | John Duns ![]() 1265, 1266 ![]() Duns ![]() |
Bu farw | 8 Tachwedd 1308 ![]() Cwlen ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, diwinydd, academydd, ysgrifennwr, clerig, offeiriad Catholig ![]() |
Cyflogwr | |
Dydd gŵyl | 8 Tachwedd ![]() |
Roedd Johannes Duns Scotus (tua 1265/66—8 Tachwedd 1308), [1] a oedd yn cael ei adnabod yn gyffredin fel Duns Scotus ("Duns y Sgotyn"), yn offeiriad Catholig o'r Alban ac yn aelod o Urdd Sant Ffransis, yn athro prifysgol, yn athronydd, ac yn ddiwinydd. Ef oedd un o bedwar athronydd-ddiwinydd pwysicaf Gorllewin Ewrop yng nghanol yr Oesoedd Canol, ynghyd â Thomas Aquinas, Bonaventura, a William o Ockham. [2]
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Ychydig a wyddys am Duns Scotus ar wahân i'w waith. Credir i'w ddyddiad geni fod rhywbryd rhwng 23 Rhagfyr, 1265 a 17 Mawrth, 1266. Ganwyd ef i deulu blaenllaw yn yr Alban. Mae safle honedig ei eni, ger Castell Duns, Swydd Berwick yn yr Alban, bellach wedi'i nodi gan garnedd a godwyd ym 1966 gan frodyr Ffransisgaidd y Deyrnas Unedig i nodi 700 mlynedd ers ei eni. Cafodd Duns Scotus ei urddo yn aelod o'r Brodyr Lleiaf Ffransisgaidd yn Dumfries, lle'r oedd ei ewythr, Elias Duns, yn warcheidwad. [3]
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd Duns Scotus ei ordeinio'n offeiriad yn St Andrew's, Northampton, Lloegr, ar 17 Mawrth 1291. [4]
Yn ôl y traddodiad, addysgwyd Duns Scotus mewn studium generale Ffransisgaidd (prifysgol ganoloesol), tŷ y tu ôl i Eglwys St Ebbe, Rhydychen [5]
Ymddengys fod Duns Scotus yn Rhydychen erbyn 1300, gan ei fod wedi'i restru ymhlith criw o frodyr y gofynnodd uwch-swyddog taleithiol talaith eglwysig Lloegr (a gynhwysai'r Alban) am gyfadrannau oddi wrth Esgob Lincoln i wrando cyffes. Ymysg ei athrawon ym Mhrifysgol Rhydychen oedd Siôn Gymro.[6] Cymerodd ran mewn dadl dan y rhaglaw-feistr, Philip o Bridlington ym 1300-01. [7] Dechreuodd ddarlithio ar Ddatganiadau Peter Lombard ym Mhrifysgol fawreddog Paris tua diwedd 1302 . Yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd honno, fodd bynnag, cafodd ei ddiarddel o Brifysgol Paris am ochri â'r Pab Boniffas VIII yn ei ffrae â Brenin Philippe IV, brenin Ffrainc ynghylch trethu eiddo eglwysig.
Roedd Duns Scotus yn ôl ym Mharis cyn diwedd 1304, yn ôl pob tebyg ym mis Mai. Parhaodd i ddarlithio yno hyd iddo symud i'r stiwdiwm Ffransisgaidd yng Nghwlen, tua Hydref 1307.
Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu farw Duns Scotus yn sydyn yng Nghwlen ym mis Tachwedd 1308. Claddwyd ef yn Eglwys y Brodyr Lleiaf yno.
Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]
Ysgrifennodd Dun Scotus nifer o draethodau a chofnodion. Ei ddau waith mawr yw Ordinatio a Quaestiones quodlibibetales, y ddau wedi eu gadael heb eu gorffen ar ei farwolaeth.[8]
Yn ei ddydd roedd Dun Scotus yn cael ei ystyried yn un o'r athronwyr, ysgolheigion a diwinyddion mwyaf galluog ei oes. Erbyn y 16g bu ymosodiadau ar ei waith yn gyntaf gan y dyneiddwyr, ac yna gan y diwygwyr Protestannaidd. Roedd y rhai oedd yn cefnogi'r 'ddysg newydd ' yn gwawdio'r rhai oedd yn dal i goleddu syniadaeth Duns fel pobl hen ffasiwn a daeth ei enw yn foes am un oedd yn anfodlon dysgu, ac wedyn am un rhy dwp i allu dysgu. Sef tarddiad y gair Dunce yn Saesneg.[9]
Hyd y 1960au bu plant ysgol yn gorfod gwisgo het gyda'r gair Dunce neu'r llythyren "D" arno fel cosb am fethu deall eu gwersi.[10]
Er y feirniadaeth ar ei waith gan ddyneiddwyr a diwygwyr parhaodd Duns i fod yn ddylanwadol ymysg ysgolheigion Catholig a daeth diddordeb newydd yn ei waith pan ddechreuodd athronwyr seciwlar fel Peter King, Gyula Klima, Paul Vincent Spade, ac eraill ei astudio.
Cafodd ei fendithio fel un Bendigaid gan y Pab Ioan Pawl II ym 1993[11]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Williams, Thomas (2019), "John Duns Scotus", The Stanford Encyclopedia of Philosophy, https://plato.stanford.edu/archives/win2019/entries/duns-scotus/
- ↑ Spade, Paul Vincent (2018), "Medieval Philosophy", The Stanford Encyclopedia of Philosophy, https://plato.stanford.edu/archives/sum2018/entries/medieval-philosophy/, "Histories of medieval philosophy often treat Thomas Aquinas (1224/25-74), John Duns Scotus (c. 1265-1308), and William of Ockham (c. 1287-1347) as the “big three” figures in the later medieval period; a few add Bonaventure (1221-74) as a fourth."
- ↑ "People of Note: John Duns Scotus". Duns, Scotland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 September 2007. Cyrchwyd 18 January 2007.
- ↑ Er bod Vos (2006, t. 23) wedi dadlau mai 'Duns' oedd ei enw teuluol mewn gwirionedd, gan y byddai rhywun o Duns wedi cael ei adnabod fel 'de Duns'.
- ↑ Vos 2006, p. 27. gweler hefyd Roest, Bert (2000). A history of Franciscan education (c. 1210–1517). Brill. tt. 21–24. ISBN 978-90-04-11739-6.
- ↑ Gwerddon; Dr Carys Moseley, Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau ‘Cymreig’? adalwyd 26 Ebrill 2022
- ↑ Williams, Thomas (golF.). The Cambridge Companion to Duns Scotus. Cambridge University Press, 2002, p. 3.
- ↑ "Blessed John Duns Scotus | Biography, Works, Ordinatio, & Facts | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-25.
- ↑ "dunce, n.". OED Online. March 2022. Oxford University Press.
- ↑ Edwards, Owen Morgan (1927). "Ar Ystol y Gosb". Llyfr Del. Wrecsam: Hughes a'i Fab. t. 58.
- ↑ "20 de marzo de 1993, Reconocimiento del culto litúrgico del beato Juan Duns Escoto y beatificación de Dina Bélanger | Juan Pablo II". www.vatican.va. Cyrchwyd 2022-04-26.
Llyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Vos, Antonie (2006). The Philosophy of John Duns Scotus. Edinburgh: Edinburgh University Press. ISBN 978-0-7486-2462-1.