Darlithydd
Jump to navigation
Jump to search
Term sy'n cyfleu safle academaidd yw darlithydd. Yn y Deyrnas Unedig, defnyddir y term tra'n cyfeirio at bobl sydd yn eu swydd brifysgol parhaol cyntaf, h.y. mae darlithwyr yn ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfa. Maent yn arwain grŵpiau ymchwil ac yn goruwchwylio myfyrwyr ôl-raddedig yn ogystal â darlithio cyrsiau. Fodd bynnag, yn yr Unol Daleithiau, Canada, a gwledydd eraill a ddylanwadir gan eu systemau addysg, defnyddir y term mewn cyd-destun gwahanol.