Siôn Gymro
- Am y Gweinidog gyda'r Annibynwyr, ieithydd ac esboniwr gweler John Davies (Siôn Gymro)
Siôn Gymro | |
---|---|
Ganwyd | 13 g ![]() Cymru ![]() |
Bu farw | 3 Ebrill 1285 ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, diwinydd, academydd, deddfegydd cyfraith yr eglwys, ysgrifennwr, addysgwr ![]() |
Blodeuodd | 1260 ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Breviloquium de virtutibus antiquorum principum et philosophum, Summa collationum, Compendiloquium de vitis illustrium philosophorum et de dictis moralibus eorundem, Ordinarium seu Alphabetum vitae religiosae, Breviloquium de philosophia sive sapientia sanctorum, Sermons, Ars praedicandi ![]() |
Roedd Siôn Gymro (geni Cymru 13 Ganrif – marw Paris 1285) yn ddiwinydd Ffransisgaidd a ysgrifennodd nifer o lyfrau diwinyddol mewn Lladin, yn Rhydychen a Pharis yn niwedd y 13 ganrif. Roedd ei lyfrau yn ymwneud â chymorth i bregethu yn bennaf. Cyfeirir ato hefyd fel Johannes Guallensis, John Waleys a John of Wales.[1]
Bywyd
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni tua 1210-1230, bron yn sicr yng Nghymru, gan ei fod wedi ei dderbyn i'r Urdd Ffransisgaidd o fynachod ym mynachlog Llan-faes,[2] mae'n debyg mae un o Fôn ydoedd. Dechreuodd astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen rywbryd cyn 1258. Ar ôl hyn, fe ddysgodd yno hyd 1270 pan symudodd i Baris, lle bu'n byw hyd ei farwolaeth tua 1285.[3] Roedd yn ddiwinydd moesol ac yn edmygwr mawr o'r byd hynafol, gan ymgorffori llawer o awduron clasurol i'w waith. Un o'i ddisgyblion ym Mhrifysgol Rhydychen oedd y diwinydd o'r Alban Duns Scotus.[2]
Gwaith
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd sawl gwaith yn Lladin, gyda llwyddiant mawr. Y rhai pwysicaf yw'r canlynol:
- Breviloquium de philosophia, sive sapientia sanctorum (Triniaeth fer am athroniaeth, neu ddoethineb y saint), wedi'i gyfieithu i Gatalaneg yn y 15g..
- Compendiloquium, sy'n grynodeb o hanes athroniaeth.
- Communiloquium neu Summa collationum, sy'n fath o lawlyfr ar gyfer offeiriaid a phregethwyr, a chafodd ei gyfieithu i'r Gatalaneg yn y 14g.
- Rhifyn digidol o'r argraffiad argraffedig cynnar Cologne 1472
- Rhifyn digidol o'r argraffiad argraffedig cynnar Ulm 1481
- Rhifyn digidol o'r argraffiad argraffedig cynnar Strasbourg 1489
- Astudiaeth
- Jenny Swanson, John of Wales: A Study of the Work and Ideas of a Thirteenth Century Friar. Cambridge Papers in Medieval Life and Thought. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2007. ISBN 9780521520324
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Swanson, Jenny. John of Wales: A Study of the Works and Ideas of a Thirteenth-Century Friar. Cambridge, 1989.
- ↑ 2.0 2.1 Gwerddon; Dr Carys Moseley, Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau ‘Cymreig’? Archifwyd 2020-09-22 yn y Peiriant Wayback adalwyd 24 Hydref 2015
- ↑ El cercador de referència en català; Joan de Gal·les adalwyd 24 Hydref 2018
- Marwolaethau 1285
- Academyddion y 13eg ganrif o Gymru
- Academyddion Prifysgol Rhydychen
- Athronwyr ysgolaidd
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Rhydychen
- Diwinyddion y 13eg ganrif o Gymru
- Diwinyddion Catholig o Gymru
- Dyneiddwyr o Gymru
- Llenorion y 13eg ganrif o Gymru
- Llenorion Lladin o Gymru
- Pobl fu farw ym Mharis
- Urdd Sant Ffransis yng Nghymru