John Davies (Siôn Gymro)
John Davies | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mawrth 1804 Llanarth |
Bu farw | 16 Rhagfyr 1884 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, ieithydd |
- Am y ddiwinydd Ffransisgaidd o'r 13 g gweler Siôn Gymro
Gweinidog gyda'r Annibynwyr, ieithydd ac esboniwr oedd Parchedig John Davies (5 Mawrth 1804 – 16 Rhagfyr 1884).
Ganwyd ef yn fab i David a Mary Davies yn Bwlch-yr-helygen, Sir Aberteifi. Symudodd ei rieni yn fuan ar ôl ei enedigaeth i fferm gyfagos o'r enw Castell-y-geifr.[1][2] Bu farw Davies yn 1884 yn 80 oed, gan adael ei casgliad cynhwysfawr o draethodau personol a barddoniaeth gyda'r gweinidog Annibynnol a'r hanesydd - John Lloyd James (Clwydwenfro), un o gyn-ddisgyblion Davies.[3][4] Addysgwyd Davies gan ei dad i ddechrau, a chofrestrodd yn Ysgol Neuaddlwyd pan oedd yn 7 oed.
Yn 1822, pan oedd yn 18 oed, cafodd ei dderbyn i Goleg y Drenewydd o dan ofal Edward Davies. Roedd David Rees a Samuel Roberts hefyd yn fyfyrwyr yno bryd hynny. Meistrolodd Davies elfennau Hebraeg, Syrieg, Aramaeg, Groeg, Lladin a diwinyddiaeth. Derbyniodd alwad gan yr Eglwys Annibynnol yn Glandŵr, Sir Benfro, am 6 mis yn y lle cyntaf, a chafodd ei ordeinio ar 28 Mawrth 1827. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, sefydlodd eglwys Moriah, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, ond arhosodd yn Glandŵr tan 1863. Pan gadawodd Glandŵr ar ol 35 mlynedd o wasanaeth, sefydlwyd Davies yn eglwys Moriah, ac arhosodd yno tan ei farwolaeth. Bu'n gadeirydd Undeb Annibynwyr Cymru o 1873.[5]
Cedwir Casgliad Davies yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'n cynnwys dros 70 eitem o ohebiaeth bersonol, traethodau, dyddiaduron, pregethau, cyfieithiadau o ddarnau o'r Testament Newydd, ynghyd â sylwebaeth, barddoniaeth, darlithoedd, almanaciau, a phapurau amrywiol. Yn ogystal â chasgliad Davies, ceir Albwm 'Clwydwenfro', a gasglwyd ynghyd gan un o fyfyrwyr ac edmygwyr Davies, y Parchg John Lloyd James (Clwydwenfro). Mae'r albwm yn cynnwys cannoedd o eitemau perthnasol i fywyd a gwaith Davies, y mwyafrif yn llythyrau, llyfrau, cofrestri eglwys, cofnodion cyfrifon, pregethau, barddoniaeth a cherddoriaeth.[6]
Defnyddiau Davies y ffugenw Shôn Gymro (neu Siôn) yn ei ysgrifau. Roedd ei enwau eraill yn cynnwys Castellanus, yn arbennig mewn gohebiaeth Saesneg, a Shôn Llethi (neu Siôn). Yr enw a gofnodwyd ar ei farwolaeth oedd "John Glandwr Davies", sy'n awgrymu ei fod hefyd yn cael ei adnabod fel "Glandwr", ar ôl y pentref y bu'n weinidog ynddo.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ DAVIES, JOHN (1804 - 1884), gweinidog Annibynnol, ieithydd ac esboniwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 7 Ebr 2020
- ↑ Davies, Ben (1938). "Shon Gymro", Lewis Gwasg Gomer. ASIN: B002A6YD46
- ↑ "Album of 'Clwydwenfro', - National Library of Wales Archives and Manuscripts". library.wales. Cyrchwyd 2017-01-23.
- ↑ Roberts, T. R., & Williams, R. (1908). Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen who have attained distinction from the earliest times to the present (Vol. 1). Educational Publishing Co. 1908
- ↑ "John Davies, Ietwen, manuscripts, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". library.wales. Cyrchwyd 2017-01-23.
- ↑ "Almanaciau - National Library of Wales Archives and Manuscripts". library.wales. Cyrchwyd 2017-01-23.