Samuel Roberts

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Samuel Roberts
Revd Samuel Roberts (SR, 1800-85) NLW3361790.jpg
Samuel Roberts ca. 1875
Ganwyd 6 Mawrth 1800 Edit this on Wikidata
Bu farw 24 Medi 1885 Edit this on Wikidata (85 oed)
Gwaith Gweinidog, awdur, bardd, ffermwr edit this on wikidata
Cyflogwr Y Dydd Edit this on Wikidata
Teulu Richard Roberts, John Roberts Edit this on Wikidata

Gweinidog gyda'r Annibynwyr, diwygiwr radicalaidd ac awdur Cymreig oedd Samuel Roberts (S. R.) (6 Mawrth 180024 Medi 1885). Roedd yn frodor o blwyf Llanbrynmair, yn yr hen Sir Drefaldwyn (Powys).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd ei dad, John Roberts, yn cadw ysgol yn Llanbrynmair, lle cafodd S. R. ei addysg gynnar cyn mynd i Ysgol Ramadeg Amwythig ac yna Academi George Lewis yn Llanfyllin.

Daeth yn ffigwr adnabyddus ledled Cymru, wrth yr enw "S. R." neu "Samuel Roberts, Llanbryn-mair", fel golygydd Y Cronicl, a sefydlwyd ganddo yn 1843. Roedd yn ddiflewyn ei dafod ei farn ar bynciau mawr y dydd. Gwrthwynebai adroddiad y Llyfrau Gleision, caethwasaeth, Rhyfel Crimea a phob agwedd ar imperialaeth Lloegr, boed hynny mewn perthynas â Chymru neu unrhyw wlad arall. Roedd o flaen ei amser hefyd yn ei gefnogaeth ddiysig i hawl pleidlais i bawb, yn cynnwys pleidlais i ferched.

Ond ennynodd ei farn annibynnol radicalaidd elynion iddo. Roedd yn ffermwr denant ar stad Wynnstay a bu rhaid iddo adael ei fferm yn 1857 ac ymfudo, fel sawl Cymro arall, i'r Unol Daleithiau i geisio ennill ei fywoliaeth a chael rhyddid barn. Ymgartrefodd yn nhalaith Tennessee. Pregethai'n gryf yn erbyn Rhyfel Cartref America yn enw egwyddorion heddychaeth, ond cafodd ei gamddeall a'i gondemnio o'r herwydd. Dychwelodd i Gymru, wedi ei siomi gan yr Amerig, yn 1867, ac aeth i ymgartrefu gyda'i frodyr yn nhref Conwy, gogledd Cymru. Bu farw yno yn 1885.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd S. R. yn awdur toreithiog. Yn ogystal â llu o erthyglau yn Y Cronicl a chylchgronau Cymraeg eraill, cyhoeddodd dwy gyfrol o gerddi, pregethau, traethodau, hunangofiant, ac ysgrifau. Ei gyfrol enwocaf yw Cilhaul.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith S. R.[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Caniadau (1830)
  • Cofiant John Roberts (1837)
  • Diosg Farm (1854)
  • Gweithiau (1856)
  • Pregethau a Darlithiau (Utica, Efrog Newydd, 1865)
  • Detholion (1867)
  • Crynodeb o helyntion ei fywyd (1875)
  • Farmer Careful (1881)
  • Pleadings for Reform (1881)
  • Hunanamddiffyniad S. R. (1882)
  • Caniadau Byrion a Cilhaul (1906)
  • Heddwch a Rhyfel (d.d.).

Ceir detholiad o'i waith, yn cynnwys Cilhaul, yn y gyfrol Cilhaul ac ysgrifau eraill, golygwyd gan Iorwerth C. Peate (Caerdydd, 1951)

Llyfrau amdano[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]