Evan Pan Jones
Evan Pan Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 12 Mehefin 1834 ![]() Llandysul ![]() |
Bu farw | 8 Mai 1922 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl ![]() |
Llenor Cymraeg, gweinidog annibynnol, golygydd a diwygiwr cymdeithasol o Gymru oedd Evan Pan Jones (12 Mehefin 1834 – 8 Mai 1922).[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni ym mhlwyf Llandysul, Ceredigion yn 1834. Ar ôl cael ei addysgu yng ngholegau'r Annibynwyr yng Nghymru ac ym Mhrifysgol Marburg yn yr Almaen, aeth yn weinidog yn y Fflint lle treuliodd weddill ei oes.
Cyfranodd yn helaeth i'r ddadl yn y wasg dros ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, yn enwedig yn ei swydd fel golygydd papur newydd Y Celt. Fel diwygiwr cymdeithasol, roedd yn gadarn o blaid y ffermwyr llai yn erbyn y meistri tir gan argymell gwladoli'r tir yng Nghymru a gwneud i ffwrdd â'r stadau mawr.
Fel llenor, ysgrifennodd gofiannau i Samuel Roberts ('S.R. Llanbrynmair') a'i frodyr ac i Michael D. Jones, arloeswr Y Wladfa, ynghyd â sawl erthygl, hunangofiant a drama.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Y Dydd Hwn: Annibyniaeth yn Symud fel Cranc (1880). Drama.
- Cofiant y Tri Brawd o Lanbryn-mair (1892)
- Cofiant Michael D. Jones (1903)
- Oes Gofion (dim dyddiad, tua 1905). Hunangofiant.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens