Glanmor Williams
Gwedd
| Glanmor Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | 5 Mai 1920 Dowlais |
| Bu farw | 24 Chwefror 2005 Abertawe |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | hanesydd |
| Cyflogwr | |
| Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig, CBE, Marchog Faglor |
Hanesydd o Gymru oedd Syr Glanmor Williams (5 Mai 1920 – 24 Chwefror 2005), a arbenigodd ar hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni a'i fagu yn Nowlais, yn unig blentyn Daniel a Ceinwen Williams. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa ac wedyn ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu yn athro hanes am 25 mlynedd ym Mhrifysgol Abertawe.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod a Margaret Fay ac roedd ganddynt ddau o blant. Bu farw yn 84 mlwydd oed, wedi gwaeledd byr. Cynhaliwyd ei angladd ar ddydd Mawrth, 8 Mawrth 2005 am 3.30 p.m., yn Amlosgfa Treforys, Abertawe.[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Wales and the Reformation (Gwasg Prifysgol Cymru)
- Grym Tafodau
- Owen Glendower
- The Welsh Church from Conquest to Reformation
- Religion, Language and Nationality
- Glanmor Williams: A Life
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cylchgronau Cymru - Y Traethodydd (1900-2007), Cyf. CLX (672-675), 2005". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Hydref 2005. Cyrchwyd 2025-08-17.
- ↑ "Click here to view the tribute page for Sir Glanmor Williams PROFESSOR". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-17.