Pab Ioan Pawl II

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ioan Pawl II
JohannesPaulII.jpg
Enw Karol Józef Wojtyła
Dyrchafwyd yn Bab 16 Hydref, 1978
Diwedd y Babyddiaeth 2 Ebrill, 2005
Rhagflaenydd Pab Ioan Pawl I
Olynydd Pab Benedict XVI
Ganed 18 Mai, 1920
Wadowice, Gwlad Pwyl
Bu Farw 2 Ebrill, 2005
Palazzo Apostolico, y Fatican


Pab o 16 Hydref 1978 hyd ei farw yn 2005 oedd Pab Ioan Pawl II (ganwyd Karol Józef Wojtyła) (18 Mai 19202 Ebrill 2005). Yn enedigol o Wlad Pwyl, ef oedd y pab cyntaf o'r tu allan i'r Eidal ers dros 450 o flynyddoedd.

Yn ddyn ifanc, fe ddioddefodd yn arw iawn o dan y Natsïaid, gan gael ei ddanfon i dorri cerrig mewn chwarel lle roedd y tymheredd yn aml yn 30 gradd selsiws o dan y rhewbwynt. Wedi iddo ddod yn offeiriad, byddai'n gwrthdaro'n aml ag awdurdodau Comiwynddol Gwlad Pwyl. Yn geidwadwr traddodiadol o ran ei grefydd, byddai'n manteisio ar bob math o gyfryngau modern i ledaenu ei neges.

Pab Ioan Pawl II visiting Milan (neighbourhood Gallaratese), behind him, cardinal archbishop Carlo Maria Martini, 1984.

Ar 27 Ebrill 2014 gwnaed Ioan Pawl II, ynghyd â Phab Ioan XXIII, yn sant gan Bab Ffransis.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Vatican declares Popes John Paul II and John XXIII saints. BBC (27 Ebrill 2014). Adalwyd ar 27 Ebrill 2014.
Rhagflaenydd:
Pab Ioan Pawl I
Pab
16 Hydref 19782 Ebrill 2005
Olynydd:
Pab Bened XVI