Wicipedia:ORCID

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o ORCID)

Math o Reolaeth awdurdod (authority control) ydy ORCID sy'n gwahaniaethu rhwng pobl gyda'r un enw e.e. John Jones, John Jones a John Jones, gan sicrhau hefyd mai'r un person ydy Jane Jones a Jane Huws, ar ôl iddi newid ei henw. Gellir defnyddio ORCID mewn tair ffordd ar Wicipedia:

  • Mewn erthyglau ar bob person byw a marw (bywgraffiadau)
  • Ar Dudalennau Defnyddwyr
  • Mewn cyfeiriadau a ffynonellau

Erthyglau ar bobl[golygu cod]

Defnyddir sawl math o ddynodwyr rheoli awdurdod (authority control identifiers) ar Wicipedia. Mae'r rhain yn cynnwys: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Rhithwir (VIAF) ac ORCID.

Mae ein dull ni yma ar y Wicipedia Cymraeg yn llawer symlach nag yw mewn ieithoedd eraill (Hydref 2014), gan mai'r cwbwl sydd angen ei wneud ydy ychwanegu {{Authority control}} ar waelod y dudalen berthnasol. Gallwch weld rhestr o bob erthygl sy'n cynnwys y Nodyn hwn yn fama.

Os oes cofnod o'r person ar Wicidata yna fe ymddengys ar ei dudalen yn otomatig; os nad oes, yna gallwch ychwanegu gwybodaeth amdano ar Wicidata. Dyma yw'r dull a argymhellir ym mhob iaith.

Cofnod ORCID o erthygl ar Wicipedia o Nick Jennings'

Gellir ychwanegu'r ORCID ar Wicidata fel hyn: P496. Gweler y sgrinlun ar y dde (Gallwch wneud hyn hefyd gyda rhifau VIAF ayb.)

Yna, rhowch {{Authority control}} ar waeld y dudalen ar y person ar Wicipedia. Mi wneith y rhifau a'r dolennau perthnasol ymddangos yn otomatig.

Yn gryno[golygu cod]

Mae ORCID yn ddull o sicrhau y gallem adnabod unigolion / pobl drwy rif / llythrennau sy'n gwbwl unigryw i'r person; dyma'r dull safonol, byd-eang o wneud hyn. Cyfrinach symylrwydd hyn i gyd ydy... Wicidata.


Gweler hefyd:[golygu cod]

  • Wicipedia:Rheoli awdurdod