Maimonides

Oddi ar Wicipedia
Maimonides
Ganwyd30 Mawrth 1138, 30 Mawrth 1135 Edit this on Wikidata
Córdoba Edit this on Wikidata
Bu farw13 Rhagfyr 1204 Edit this on Wikidata
Cairo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAl-Andalus Edit this on Wikidata
Alma mater
  • University of al-Qarawiyyin Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, meddyg ac awdur, rabi, seryddwr, Dayan, ysgrifennwr, meddyg Edit this on Wikidata
Swyddnagid yr Aifft Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMishneh Torah, The Guide for the Perplexed, Pirush Hamishnayot, Epistle to Yemen, Sefer Hamitzvot, Hakdamot HaRambam, Treatise in Eight Chapters, Treatise on logic Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAvicenna, Al-Farabi, Muhammad ibn Yaḥyá ibn Bājjah,, Aristoteles, Averroes Edit this on Wikidata
TadMaimon ben Yossef HaDayan Edit this on Wikidata
PlantAbraham ben Moses ben Maimon Edit this on Wikidata
llofnod

Athronydd a chyfreithegwr Iddewig, ysgolhaig y Tora a'r Talmwd, meddyg, a seryddwr o Al-Andalus oedd Moses Ben Maimon Ben Joseph a adwaenir gan yr enw Maimonides (30 Mawrth 113513 Rhagfyr 1204).[1]

Ganed yn Córdoba yn ne penrhyn Iberia, yn Ymerodraeth yr Almorafidiaid, a leolir bellach yn Andalucía, Sbaen. Dechreuodd ymddiddori yn athroniaeth a'r gwyddorau naturiol yn ei ieuenctid, a darllenodd yn frwd weithiau'r ysgolheigion Islamaidd yn ogystal â chyfieithiadau Arabeg o athronwyr Groeg yr Henfyd. Nodweddai ei feddwl o'r cychwyn gan resymoledd gryf a chyfundrefnol ac atgasedd at gyfriniaeth ac aneglurder. Yn sgil gorchfygiad yr Almorafidiaid gan Galiffiaeth yr Almohadiaid yng nghanol y 12g, ffoes Maimonides a'i deulu i Fès yng ngogledd-orllewin Affrica, a gorfu iddynt droi'n Fwslimiaid.

Aeth Maimonides ar daith yn 1165 i'r Tir Sanctaidd, ac ymwelodd ag Acre, Jeriwsalem, ac Hebron cyn iddo ymsefydlu gyda'i frawd yn Fustat, Hen Gairo, yn yr Aifft. Daeth Swltaniaeth yr Ayyubid i rym yno yn 1171, a dan lywodraeth y Swltan Saladin nid oedd yn rhaid i'r Iddewon guddio'u ffydd. Enillodd Maimonides ei damaid fel gemydd a meddyg, tra'n dal at ei astudiaethau athronyddol a chrefyddol. Yn 1177 cydnabuwyd Maimonides yn bennaeth ar y gymuned Iddewig yn yr Aifft, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn un o feddygon llys Saladin. Bu farw yn Fustat yn 68 oed, a chleddir ei gorff yn Tiberias.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Moses Maimonides. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mawrth 2020.