Neidio i'r cynnwys

Jan Ámos Komenský

Oddi ar Wicipedia
Jan Ámos Komenský
Portread o Jan Ámos Komenský gan yr arlunydd Ffrisiaidd Jürgen Ovens.
Ganwyd28 Mawrth 1592 Edit this on Wikidata
Uherský Brod, Nivnice Edit this on Wikidata
Bu farw15 Tachwedd 1670 Edit this on Wikidata
Amsterdam Edit this on Wikidata
Galwedigaethathro, athronydd, gwyddonydd, diwinydd, llenor, archifydd Edit this on Wikidata
Swyddpennaeth Edit this on Wikidata
PriodJohanna Gajusová, Marie Dorota Cyrillová, Magdalena Vizovská Edit this on Wikidata
llofnod

Athronydd, diwinydd, ac addysgwr o Fohemia, yn enedigol o Forafia, oedd Jan Ámos Komenský (Lladin: Ioannes Amos Comenius; 28 Mawrth 159215 Tachwedd 1670) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at addysgeg a dysgu ieithoedd, ac fel arweinydd Protestannaidd yng nghyfnod yr oruchafiaeth Gatholig ym Nheyrnas Bohemia. Arddelai astudiaethau ac ysgolheictod Lladin fel cyfrwng i ledaenu diwylliant Ewropeaidd, a chafodd ei waith Janua Linguarum Reserata (1632) ddylanwad chwyldroadol ar addysg Ladin ar draws y cyfandir.

Ganed ef yn Nivnice, Ardalyddiaeth Morafia, yn nhiriogaeth Coron Bohemia, a oedd ar y pryd dan reolaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Protestaniaid o Undod y Brawdolion oedd ei rieni, a fuont farw pan oedd eu hunig fab yn 10 oed. Treuliodd Jan bedair mlynedd anhapus gyda'i fodryb yn Strážnice cyn cael ei anfon i'r ysgol yn Přerov. Ar anogaeth y prifathro, penderfynodd i hyfforddi i fod yn weinidog. Aeth i'r gymnasiwn yn Herborn, Iarllaeth Nassau, yng ngorllewin yr Ymerodraeth Lân Rufeinig am ddwy flynedd cyn cael ei dderbyn i Brifysgol Heidelberg ym 1613. Yn Heidelberg, prifddinas y Freiniarllaeth, daeth Komenský dan ddylanwad y milflwyddwyr a gredasant mewn iachawdwriaeth yn y byd materol. Darllennodd hefyd weithiau Francis Bacon, gan feithrin ynddo argyhoeddiad o allu gwyddoniaeth i gyrraedd y Milflwyddiant, sef teyrnasiad Crist ar y ddaear.[1]

Dychwelodd Komenský i weinidogaethu ar blwyf yn ei famwlad, ond amharwyd ar ei fywyd tawel ac hapus gan ddyfodiad y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain ym 1618. Yn sgil ymdrechion yr Ymerawdwr Ferdinand II i ail-Gatholigeiddio Bohemia, ffoes Komenský ac arweinwyr Protestannaidd erail i guddio o'r awdurdodau. Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd ei aralleg ryddieithiol enwog, Labyrint světa a ráj srdce ("Drysfa'r Byd a Pharadwys y Galon"; cyhoeddwyd 1631), un o gampweithiau'r Oes Faróc yn llenyddiaeth Tsieceg. Gydag eraill o Undod y Brawdolion, aeth Komenský yn alltud i Wlad Pwyl ac ymsefydlodd yn Leszno ym 1628.

Yn ystod ei alltudiaeth, aeth Komenský ati i baratoi am adfer cymdeithas Brotestannaidd ym Mohemia, gan lunio'i weledigaeth o drefn addysg ddiwygiedig a phob plentyn yn mynychu'r ysgol. Yn Didaktika česká ("Y Ddidacteg Tsiecaidd"; 1628–30) dadleuodd o blaid rhaglen addysg gynhwysfawr i ddysgu'r ieuenctid am eu diwylliant brodorol yn ogystal â diwylliant Ewrop oll. Yn Didactica magna ("Y Ddidacteg Fawr"; 1633–38), amlinellai ei ddull o addysgu gyda phwyslais ar feddwl ac arferion naturiol y disgybl, a chyfarwyddai famau i ddefnyddio'r un fethodoleg gyda phlant bychain yn ei lyfr Informatorium školy mateřské ("Llyfr Gwybodaeth yr Ysgol Feithrin"; 1632). Argymhellai'n frwd ddysgu Lladin i blant i gyflwyno diwylliant Ewropeaidd iddynt i gyd, ac at ddiben hwn cyflawnaodd ei brif werslyfr, Janua Linguarum Reserata ("Datgloi Drysau Ieithoedd"), ar ffurf testunau Lladin a Tsieceg ochr-yn-ochr. Cyhoeddwyd addasiad Lladin-Almaeneg o'r gwaith, ac yna cyfieithiadau mewn ieithoedd eraill, ac yn fuan daeth y Janua yn enwog ar draws y cyfandir.

Wrth i'r Hapsbwrgiaid orfodi'r drefn Gatholig ar Fohemia, trodd Komenský ei sylw at ddiwygio addysg yn gyffredinol a chysylltu â meddylwyr eraill ar draws Ewrop. Fe'i wahoddwyd i Loegr ar gais Samuel Hartlib, marsiandïwr Almaenig yn Llundain, gyda'r nod o sefydlu coleg cyffredinol. Gyda chefnogaeth Undod y Brawdolion, teithiodd Komenský i Lundain ym 1641 a fe'i croesawid gan nifer o wŷr hyddysg a phwysigion y ddinas. Ysgrifennodd ragor o ysgrifau i egluro'i syniadau, gan gynnwys y rhaglen ddysg Via Lucis ("Ffordd Goleuni"; 1641). Bu ystyriaeth gan y Senedd ynghylch sefydlu coleg yn unol â chynlluniau Komenský a'i gefnogwyr, ond rhoddwyd taw ar hynny gan ddechrau'r Rhyfel Cartref ym 1642, ac aeth Komenský i Ffrainc ar wahoddiad y Cardinal Richelieu. Derbyniodd gynnig oddi ar lywodraeth Sweden i ddiwygio'r ysgolion yn y deyrnas honno, ac aeth i Elbing—un o borthladdoedd y Cynghrair Hanseatig yn y Môr Baltig—i baratoi cyfres o werslyfrau yn seiliedig ar ei athroniaeth o "hollwybodaeth". Yn y pen draw, llafuriodd yr awdur yn ofer i gyflawni'r gwaith: nid oedd y Swediaid yn fodlon â'r canlyniadau, am iddynt ddisgwyl rhywbeth yn debycach i batrwm yr hen Janua. Er gwaethaf, treuliodd ei gyfnod yn Elbing yn datblygu a mireinio'i athroniaeth addysgol, gan osod sylfaen i wyddor addysgeg. Am y rheswm honno, cydnabyddir Komenský gan nifer fel tad addysg fodern.

Daeth y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain i ben ym 1648, a chadarnhawyd tra-arglwyddiaeth yr Eglwys Gatholig ym Mohemia gan Gytundeb Heddwch Westfalen. Gwaharddwyd Komenský a'r alltudion eraill rhag dychwelyd i'w famwlad, felly, oni bai iddynt ddatgyffesu eu Protestaniaeth. Penderfynodd Komenský ddychwelyd i Leszno, ac yno ym 1648 fe'i cysegrwyd yn Esgob Gweinyddol Undod y Brawdolion. Aeth i Hwngari ym 1650 ar wahoddiad y Tywysog Zsigmond Rákóczi, i sefydlu ysgol hollwybodol yn Sárospatak. Agorodd yr ysgol gyda rhyw 100 o ddisgyblion, ond nid oedd yn llwyddiant. Bu farw'r Tywysog Zsigmond ym 1652, a dychwelodd Komenský i Leszno gyda llawysgrif ar gyfer gwerslyfr darluniedig newydd. Anfonodd y llawysgrif i Nürnberg ar gyfer torluniau pren, a chyhoeddwyd y gwaith, Orbis Sensualium Pictus ("Y Byd Gweledol mewn Lluniau"), o'r diwedd ym 1658. Byddai'r llyfr Lladin hwnnw yn boblogaidd ar draws Ewrop am ddeucan mlynedd bron.

Dinistriwyd Leszno ym 1656 yn ystod Ail Ryfel y Gogledd, a chollodd Komenský nifer o'i lawysgrifau. Ffoes i Amsterdam, yng Ngweriniaeth yr Iseldiroedd, ac yno y bu am 13 mlynedd olaf ei oes. Cyhoeddodd gasgliad o'i ysgrifeniadau am addysg ym 1657 dan y teitl Didactica Opera Omnia ("Holl Weithiau Addysgol"). Yn ei flynyddoedd terfynol, ymroddai ei hun i'w waith mawr De rerum humanarum emendatione consultatio catholica ("Trafodaeth Gyffredinol am Wella Popeth Dynol"), a gyhoeddwyd yn rhannol yn 1666. Bu farw Komenský yn Amsterdam yn 78 oed.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) John Amos Comenius. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Awst 2023.