Amsterdam
![]() | |
![]() | |
Math |
dinas, prifddinas, place with town rights and privileges, dinas fawr, dinas â phorthladd, populated place in the Netherlands, prifddinas, lleoliad ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Cob, Afon Amstel ![]() |
![]() | |
Poblogaeth |
860,124 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Femke Halsema ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+01:00, CET, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Amstelland ![]() |
Sir |
Amsterdam ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
219 km² ![]() |
Uwch y môr |
−2 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Amstel, IJ, IJmeer ![]() |
Cyfesurynnau |
52.38°N 4.9°E ![]() |
Cod post |
1000–1098, 1100–1109 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Maer Amsterdam ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Femke Halsema ![]() |
![]() | |
Amsterdam | |
---|---|
Lleoliad o fewn Bwrdeisdref Amsterdam | |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Ardal | Noord-Holland |
Llywodraeth | |
Awdurdod Rhanbarthol | Llywodraeth Bwrdeisdrefol Amsterdam |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 84.6 km² |
Uchder | 7 troedfedd (2 medr) m |
Demograffeg | |
Poblogaeth Cyfrifiad | 758,198 (Cyfrifiad 2009) |
Dwysedd Poblogaeth | 11,548.8 /km2 |
Metro | 2,158,372 |
Gwybodaeth Bellach | |
Cylchfa Amser | CET (UTC+1) |
Cod Post | 1011 – 1109 |
Gwefan | http://www.amsterdam.nl |
Prifddinas a dinas fwyaf yr Iseldiroedd yw Amsterdam ( ynganiad ). Saif ar Fae Ij a'r Afon Amstel yn nhalaith (provincie) Gogledd Holland. Roedd gan y ddinas boblogaeth o tua 1 miliwn (gan gynnwys y maesdrefi) ar 1 Ionawr 2008. Mae'r ddinas yn cynnwys yr ardal ogleddol Randstad sef y 6ed ardal fetropolitanaidd fwyaf yn Ewrop, gyda phoblogaeth o tua 6.7 miliwn.
Er mai prifddinas swyddogol yr Iseldiroedd yw Amsterdam, nid hi fu canolfan y llywodraeth erioed. Lleolir canolfan y llywodraeth, y senedd a thrigfan y frenhines i gyd yn Den Haag. Nid yw Amsterdam yn brifddinas o'i thalaith ei hun chwaith: prifddinas Gogledd Holland yw Haarlem.
Daw enw'r ddinas o'r Argae Amstel (yn Saesneg: Amstel Dam) sy'n esbonio tarddiad y ddinas; argae ar afon Amstel lle mae Sgwâr Dam wedi'i lleoli heddiw. Sefydlwyd pentref bychan yno yn ystod y 12g a ddatblygodd yn un o borthladdoedd pwysicaf y byd yn ystod yr Oes Aur Iseldireg, o ganlyniad i'w datblygiad masnachol arloesol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ystyriwyd y ddinas yn ganolfan flaenllaw ar gyfer masnach a deiamwntiau. Ehangodd y ddinas yn ystod y 19eg a'r 20g, wrth i gymdogaethau maesdrefi newydd gael eu sefydlu.
Amsterdam yn canolbwynt ariannol a diwylliannol yr Iseldiroedd. Lleolir nifer o sefydliadau Iseldireg mawrion yno ac mae 7 o 500 o gwmnïau mwyaf y byd, gan gynnwys Philips ac ING wedi'u sefydlu yn y ddinas. Lleolir Cyfnewidfa Stoc Amsterdam, sy'n rhan o Euronext, yng nghanol y ddinas. Yn flynyddol, daw 4.2 miliwn o dwristiaid i weld atyniadau'r ddinas, sy'n cynnwys ei chamlesi hanesyddol, y Rijksmuseum, Amgueddfa Van Gogh, Tŷ Anne Frank, yr ardal golau coch a'r siopau coffi canabis.
Adeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Concertgebouw
- Het Houten Huys (hen dŷ)
- Palas brenhinol
- Rembrandthuis (cartref yr arlunydd Rembrandt)
- Rijksmuseum (amgueddfa)
- Tŷ Anne Frank
Pobl o Amsterdam[golygu | golygu cod y dudalen]
- Willem Janszoon, fforiwr
- Nicolaes Tulp, meddyg
- Rembrandt van Rijn, arlunydd
- Anne Frank, dyddiadurwraig
- Bobby Farrell, canwr (Boney M)
- Johan Cruijff, pêl-droedwr
- Tom Okker, chwaraewr tenis
- Dennis Bergkamp, pêl-droedwr
- Ruud Gullit, pêl-droedwr
- Joop van den Ende, dyn busnes
- Jeroen Krabbé, actor
|