Neidio i'r cynnwys

Morafia

Oddi ar Wicipedia
Morafia
Mathrhanbarth, Czech lands, ardal hanesyddol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMorava Edit this on Wikidata
Cs-Morava.ogg Edit this on Wikidata
PrifddinasBrno, Olomouc Edit this on Wikidata
NawddsantSaints Cyril and Methodius Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Tsiecia Tsiecia
Arwynebedd22,348.87 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.5°N 17°E Edit this on Wikidata
Map

Rhanbarth hanesyddol yn nwyrain Tsiecia, yng nghanol Ewrop, yw Morafia (Tsieceg a Slofaceg "Cymorth – Sain" Morava ; Almaeneg Mähren; Hwngareg Morvaország; Pwyleg Morawy). Daw'r enw o Afon Morafa sydd a'i ffynhonnell yng ngogledd-orllewin yr ardal ac roedd yn un o dri prif rhanbarth y wlad (gyda Bohemia a Czech Silesia). Arferai fod yn un o 17 ardal y goron yn Ymerodraeth Awstria-Hwngari rhwng 1867–1918 ac yn un o 5 prif rhanbarth Tsiecoslofacia rhwng 1918–1928. Prifddinas Morafia yw Brno; cyn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain roedd yma dwy brifddinas: Olomouc a Brno.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae Morafia'n dalp helaeth o Tsiecia, ac yn cynnwys Rhanbarth De Morafia[1] ac ardal y Zlín, yn ogystal ag ardal Moravian-Silesian, Olomouc, Pardubice, Vysočina a De Bohemia.

Mae Morafia'n ffinio gyda Gwlad Pwyl yn y gogledd, Czech Silesia yn y gogledd-ddwyrain, De Awstria yn y de a Bohemia yn y gorllewin. Mynyddoedd y Sudetes yw ei ffin gogleddol, sydd o fewn dim yn troi'n Garpatiau yn y dwyrain. Nadredda'r Dyje yn ffin rhwng Morafia ac Awstria a cheir ardal gadwriaeth o bopty'r afon yn yr ardal a elwir yn Hardegg.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Erthygl: Not only here for the beer: Moravia, the Czech Republic's wine region. The Guardian 2011
 
Rhanbarthau hanesyddol Tsiecia
Bohemia Morafia Silesia