Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ewrop ar ddiwedd y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain yn 1648

Rhyfel a ymladdwyd ar gyfandir Ewrop o 1618 hyd 1648 oedd y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain.

Dechreuodd y rhyfel fel anghydfod crefyddol rhwng y Protestaniaid a'r Catholigion o fewn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn raddol, tynnwyd y rhan fwyaf o wledydd Ewrop i mewn i'r ymladd, llawer ohonynt am resymau heb gysylltiad a chrefydd. Ar yr ochr Gatholig roedd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, y Cynghrair Catholig a Sbaen; ar yr ochr Brotestanaidd roedd nifer o wledydd yn cynnwys Ffrainc, Sweden a Denmarc. Ymhlith y cadfridogion amlycaf roedd Gustavus Adolphus, brenin Sweden, y Vicomte de Turenne o Ffrainc, ac ar ochr yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, Johann Tserclaes, Cownt Tilly a'r Dug Albrecht von Wallenstein.

Ymladdwyd y rhan fwyaf o'r brwydrau yng nghanolbarth Ewrop, yn enwedig yr Almaen. Gwneid llawer o ddefnydd o fyddinoedd o hurfilwyr, ac anrheithiwyd tiriogaethau eang ganddynt. Credir i boblogaeth y gwladwriaethau Almaenig ostwng o tua 30% yn ystod y rhyfel; yn Brandenburg roedd y colledion tua hanner y boblogaeth. Diweddodd y rhyfel gydag arwyddo Cytundeb Münster, rhan o Heddwch Westphalia.

Tank template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ryfel neu wrthdaro milwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.