Baruch Spinoza
Gwedd
| Baruch Spinoza | |
|---|---|
| Ganwyd | 24 Tachwedd 1632 Amsterdam |
| Bu farw | 21 Chwefror 1677 o diciâu Den Haag |
| Dinasyddiaeth | Gweriniaeth yr Iseldiroedd |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | athronydd, cyfieithydd y Beibl, grinder of lenses, gwyddonydd gwleidyddol, gramadegydd, diwinydd |
| Adnabyddus am | Ethics, conatus |
| Prif ddylanwad | René Descartes, Parmenides, Maimonides, Xenophanes, Niccolò Machiavelli, Ibn Tufayl, Nicolas Malebranche, Giordano Bruno, Francis Bacon, Thomas Hobbes, Averroes, Democritos, Epicurus, Lucretius, Hasdai Crescas, Avicenna, Platon, Aristoteles |
| Mudiad | Rhesymoliaeth, athroniaeth y Gorllewin |
| Tad | Miguel de Espinoza |
| Mam | Hanna Debora d'Espinoza |
| llofnod | |
Athronydd o'r Iseldiroedd o dras Iddewig-Portiwgëaidd oedd Baruch neu Benedict de Spinoza (Hebraeg: ברוך שפינוזה, Portiwgëg: Bento de Espinosa, Lladin: Benedictus de Spinoza) (24 Tachwedd, 1632 – 21 Chwefror, 1677). Arddangosodd fedr gwyddonol sylweddol, ond ni sylweddolwyd ehangder a phwysigrwydd ei waith tan ar ôl ei farwolaeth. Erbyn heddiw, fe'i ystyrir yn un o resymegwyr athronyddol mwyaf yr 17g, gan osod y sylfeini ar gyfer Yr Oleuedigaeth yn y 18g a beirniadaeth fodern o'r Beibl.