Giordano Bruno

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Giordano Bruno
Giordano Bruno.jpg
Ganwyd 1548 Edit this on Wikidata
Nola Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Chwefror 1600 Edit this on Wikidata (51 oed)
Achos: marwolaeth drwy losgi Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Kingdom of Naples Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Napoli Federico II Edit this on Wikidata
Galwedigaeth seryddwr, athronydd, Bardd, Ysgrifennwr, academydd, astroleg, Mathemategydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Helmstedt Edit this on Wikidata

Athronydd, offeiriad a seryddwr Eidalaidd oedd Giordano Bruno (154817 Chwefror 1600). Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd iddo gael ei losgi am heresi.

Ganed ef yn Nola, Campania, yr adeg honno yn rhan o Deyrnas Napoli. Ei enw bedydd oedd Filippo Bruno. Pan oedd yn 11 oed, aeth i Napoli i atudio'r Trivium. Yn bymtheg oed, ymunodd ag Urdd y Dominiciaid, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1572.

Roedd ganddo ddiddordeb mewn athroniaeth, yn arbenigo yn y côf, gan ysgrifennu llyfrau ar dechnegau mnemonig. Credir fod ganddo gysylltiadau a Hermetigiaeth; dylanwadwyd arno hefyd gan ddamcaniaeth Copernicus fod y ddaear yn troi o amgylch yr haul, er fod ei ddiddordeb ef yn hyn yn fwy cyfriniol na gwyddonol.

Daeth ei syniadau ag ef i sylw'r Chwil-lys, a theithiodd i Geneva am gyfnod, cyn gadael am Ffrainc, yn gyntaf i Lyon, yna i Toulouse. Yn 1581 aeth i ddinas Paris, lle bu'n darlithio ar ddiwinyddiaeth. Cyhoeddodd nifer o lyfrau yn y cyfnod yma, er enghraifft De umbris idearum ("Cysgodion Syniadau", 1582) ac Ars Memoriae ("Celfyddyd Côf", 1582). Yn 1583 aeth i Loegr, lle daeth i gysylltiad a John Dee. Dychwelodd i Baris ym 1585, yna y flwyddyn wedyn aeth i'r Almaen lle bu'n darlithio yn Wittenberg.

Yn 1591 yn Frankfurt, cyfarfu a Giovanni Mocenigo a'i gwahoddodd i Fenis. Dychwelodd i'r Eidal a bu'n dysgu yn Padova am gyfnod cyn dynud i Fenis. Bu'n dysgu teulu Mocenigo am gyfnod, ond pan gyhoeddodd ei fod am adael, hysbysodd Mocenigo y Chwil-lys amdano. Cymerwyd ef i'r ddalfa ar 22 Mai, 1592 ar gyhuddiadau o gabledd a heresi. Gyrrwyd ef i Rufain yn Chwefror 1593. Bu ymg ngharchar yno am saith mlynedd cyn ei gael yn euog o heresi a'i losgi wrth y stanc.