Marsilio Ficino

Oddi ar Wicipedia
Marsilio Ficino
Marsilio Ficino fel y'i bortreadir yn y ffresgo Apparizione dell'angelo a Zaccaria (1486–90) gan Domenico Ghirlandaio.
Ganwyd19 Hydref 1433 Edit this on Wikidata
Figline Valdarno Edit this on Wikidata
Bu farw1 Hydref 1499 Edit this on Wikidata
Villa Medici at Careggi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fflorens Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Pisa
  • Prifysgol Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, cyfieithydd, clerig, astroleg, bardd, ysgrifennwr, meddyg Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata

Athronydd a diwinydd, dyneiddiwr, a chyfieithydd Eidalaidd oedd Marsilio Ficino (19 Hydref 14331 Hydref 1499) sydd yn nodedig fel yr ysgolhaig cyntaf i gyfieithu holl weithiau Platon i Ladin, ac un o brif ladmeryddion addysg glasurol—yn enwedig newydd-Blatoniaeth—yn ystod cyfnod y Dadeni Dysg.

Ganed ef yn Figline, Gweriniaeth Fflorens, yn fab i feddyg. Astudiodd y clasuron, gan gynnwys athroniaeth a meddygaeth Aristoteles, ac ymddisgleiriodd yn ei efrydiau. Fe'i penodwyd gan Cosimo de' Medici i diwtora ei ŵyr, Lorenzo de' Medici, a chafodd ei noddi hefyd gan Cosimo i gyfieithu gweithiau Platon o'r Roeg i'r Lladin ac i sefydlu academi yn Fflorens ym 1462 ar batrwm Academi Platon. Yn ogystal, cyflawnodd Ficino sawl esboniad ar waith Platon. Cyfieithodd Ficino hefyd sawl gwaith anadnabyddus o lenyddiaeth Hen Roeg i Ladin, gan hybu athroniaeth a llenyddiaeth glasurol ar draws yr Eidal. Ficino oedd un o feddylwyr blaenaf yr ysgol newydd-Blatonaidd, ac arddelai athrawiaeth Gristnogol sydd yn cymodi syniadau Platon am yr enaid. Amlinellir ei gredo yn ei waith enwocaf, Theologia Platonica de immortalitate animae ("Diwinyddiaeth Platon o'r Ysbryd Anfarwol", 1482). Yn ei waith De vita libri tres ("Tri Llyfr Bywyd", 1489), dadleuai o blaid defnydd swynoglau a sêr-ddewiniaeth, ac o'r herwydd fe'i cyhuddwyd o ddewiniaeth gan yr Eglwys.

Cafodd ei ordeinio'n offeiriad ym 1473, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn swyddog eglwysig yn Eglwys Gadeiriol Fflorens. Wedi i deulu'r Medici gael ei fwrw allan o Fflorens ym 1494, symudodd Ficino i gefn gwlad. Bu farw yn Careggi, ar gyrion Fflorens, yn 65 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Marsilio Ficino. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Medi 2022.