Heresi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darluniad o gronicl Ffrengig sy'n portreadu llosgi'r hereticiaid Amalricaidd yn y flwyddyn 1210, o flaen y Brenin Philippe II. Pantheistiaid oedd yr Amalriciaid ac yn gwadu trawsylweddiad.

Cred neu athrawiaeth grefyddol sy'n groes i ddysgeidiaeth uniongred neu'r drefn sefydledig yw heresi.[1] Yn ystod oesoedd cynnar Cristnogaeth, roedd yn rhaid i'r Eglwys ymdrin â sawl dadl a elwir yn heresïau: Ariaeth, Docetiaeth, Gnostigiaeth, Mabwysiadaeth, Montaniaeth, Pelagiaeth, a Sabeliaeth. Ynghyd ag apostasi a chabledd, heresi oedd un o'r prif droseddau yn erbyn y ffydd Gristnogol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  heresi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 2 Ionawr 2017.
Religion template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.