Philippe II, brenin Ffrainc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brenin Ffrainc o 1180 hyd ei farwolaeth yn 1223 oedd Philippe II (Philippe Auguste neu Philip Augustus) (21 Awst, 1165 - 14 Gorffennaf, 1223).

Hanes[golygu]

Sêl fawr Phillipe Augustus

Cafodd ei eni yn Gonesse, Val-d'Oise.

Ynghyd â'r Ymerodr Glân Rhufeinig Frederick Barbarossa a Rhisiart Coeur de Lion o Loegr roedd Philippe yn un o arweinwyr y Drydedd Groesgad (1189 - 1192) yn erbyn y Saraseniaid yn y Dwyrain Canol.

Yn y flwyddyn 1212 cyfnewidiodd Llywelyn Fawr lythyrau ag Awgwstws. Mae llythyr Phillipe ar goll ond cedwir llythyr Llywelyn yn Archifdy Cenedlaethol Ffrainc, ym Mharis. Cynnwys y drafodaeth oedd cynnig gan frenin Ffrainc i dywysog Gwynedd ymgynghreirio ag ef yn erbyn John, brenin Lloegr.[1]

Gwragedd a phlant[golygu]

Gwragedd[golygu]

Plant[golygu]

  • Gan Isabelle:
  • Gan Agnes
    • Marie (1198 - 1224)
    • Philippe Hurepel (1200 - 1234)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. John Davies, Hanes Cymru, tt. 130-1.

Rhagflaenydd :
Louis VII

Brenhinoedd Ffrainc
1180-1223

Olynydd :
Louis VIII