Hypatia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Sgwennodd Hypatia esboniad o waith Perga ar drychiadau conig.

Roedd Hypatia, a aned tua 350-370 ac a fu farw 415 OC yn athronydd Helenistaidd a Phlatonaidd ac yn seryddwraig a mathemategydd, a oedd yn byw yn Alexandria, yr Aifft.[1]

Roedd hi'n feddyliwr amlwg o ysgol athroniaeth y Plato Newydd yn Alexandria, lle bu'n dysgu athroniaeth a seryddiaeth.

Hi yw'r mathemategydd benywaidd cyntaf y mae ei bywyd wedi'i gofnodi'n eithaf trylwyr. Roedd Hypatia'n enwog yn ei oes ei hun fel athro gwych a chynghorydd doeth. Mae'n hysbys ei bod wedi ysgrifennu sylwebaeth ar waith Diophantus, sef Arithmetica.[2]

Er mai Pagan ydoedd, roedd hi'n oddefgar tuag at Gristnogion gan ddysgu llawer o fyfyrwyr Cristnogol, gan gynnwys Synesius, a ddaeth yn esgob Ptolemais. Mae ffynonellau hynafol yn cofnodi bod Hypatia yn cael ei pharchu gan Baganiaid a Christnogion fel ei gilydd a bod hi ganddi ddylanwad mawr dros uchelwyr elitaidd, gwleidyddol Alexandria. Tua diwedd ei hoes, rhoddodd Hypatia gyngor i Orestes, rhaglaw Rhufeinig Alexandria, a oedd yng nghanol brwydr wleidyddol â Cyril, esgob Alexandria. Lledaenodd sibrydion yn ei chyhuddo o atal Orestes rhag cymodi â Cyril ac, ym Mawrth 415 OC, llofruddiwyd Hypatia gan dorf o Gristnogion a arweiniwyd gan ddyn o'r enw Pedr.

Syfrdanwyd yr ymerodraeth Rufeinig gan farwolaeth Hypatia , a'i thrawsnewid yn "ferthyr i athroniaeth", gan ddylanwadu ar y athronwyr y Plato Newydd i fod yn fwy gwrth-Gristnogol. Yn ystod yr Oesoedd Canol, ystyriwyd Hypatia yn symbol o rinweddau Cristnogol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Petta, Adriano; Colavito, Antonino (2009). Hypatia, scientist of Alexandria, 8th March 415 A.D. Lampi di stampa. 
  2. Krebs, Groundbreaking Scientific Experiments, Inventions, and Discoveries; The Cambridge Dictionary of Philosophy; ail argraffiad, Cambridge University Press, 1999: "Greek Neoplatonist philosopher who lived and taught in Alexandria."