Awstin o Hippo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
"St Awstin a Monica" (1846), gan Ary Scheffer.

Roedd Aurelius Augustinus, Awstin o Hippo, neu Sant Awstin (13 Tachwedd, 354 - 28 Awst, 430) yn o'r ffigyrau pwysicaf yn natblygiad Cristionogaeth yn y gorllewin. Ystyrir ef fel sant gan yr Eglwys Gatholig ac mae llawer o enwadau Protestannaidd hefyd yn ei ystyried fel un o dadau'r ffydd. Mae barn yr eglwysi Uniongred amdano yn fwy amrywiol.

Ganed Awstin yn 354 yn Tagaste (Souk Ahras, Algeria heddiw), o deulu Berber. Addysgwyd ef ym Madaurus, ac yna yn Carthago. Roedd ei fam, Monica, yn Gristion a'i dad Patricius yn bagan. Am gyfnod, gadawodd Awstin yr eglwys i ddilyn Manicheaeth, er mawr ofid i'w fam. Ffurfiodd berthynas a merch a barhaodd am bymtheng mlynedd, a ganwyd mab, Adeodatus, iddo. Yn 383 symudodd i Rufain ac yn 384 cafodd swydd athro rhethreg ym Milan.

Perswadiwyd ef gan esgob Milan, Ambrosius, i ail-ymuno a'r Eglwys Gatholig. Bedyddiwyd ef a'i fab Adeodatus gan Ambrosius yn ystod Pasg 387, ac yn 388 dychwelodd i Affrica. Ar y ffordd bu farw ei fam, ac yn fuan wedyn ei fab. Creodd fynachlog yn Tagaste, ac yn 391 ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Hippo Regius, (yn awr Annaba, yn Algeria). Daeth yn bregethwr enwog, ac yn 396 gwnaed ef yn esgob Hippo. Bu farw yno yn 75 oed yn 430, pan oedd y ddinas dan warchae gan y Fandaliaid.

Ysgrifennodd Awstin nifer fawr o weithiau yn Lladin, yn cynnwys gweithiau yn dadlau yn erbyn Ariadaeth, Donatiaeth, Manicheaeth a Pelagiaeth. Y mwyaf enwog o'i weithiau yw Confessiones (Cyffesiadau), a ystyrir weithiau fel yr hunangofiant modern cyntaf, a De civitate Dei (am ddinas Dduw).