Hil

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Dosbarth o fodau dynol yw hil sy'n grwpio poblogaethau yn ôl ffactorau megis nodweddion etifeddadwy neu'n grwpiau daearyddol. Mae nodweddion megis pryd a gwedd y grŵp, diwylliant y grŵp, ethnigrwydd, a statws economaidd-gymdeithasol y grŵp hefyd yn cael eu hystyried wrth eu dosbarthu.

Canwyd awdl gan y Prifardd Alan Llwyd ar dair hil: Yr Hil Wen (Cymry), Yr Hil Werdd (Gwyddelod) a'r Hil Goch (brodorion Americanaidd) yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Rhuthun yn 1973.

Syniadau hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Y Dangosai Daearyddawl (1823) gan Robert Roberts, gellir dosbarthu lliwiau croen y ddynolryw fel y ganlyn: "Du. Trigolion canol-barthau Affrica, Guni newydd ac Holland Newydd. Gwineuddu. Y Mooriaid yn ngogledd-barth Affrica, ac yr Hottentottiaid yn ei rhànau deheuol. Gwineu. Trigolion yr India ddwyreiniol. Coch. Trigolion America, Coch-ddu. Trigolion parthau deheuol Ewrop, megys y Siciliaid, Yspaeniaid, Twrciaid a Groegiaid ; hefyd y Laplandiaid yn y gogledd, a Gwyn, holl ganol-barthau Ewrop, sef Prydain, Almaen, &c. ac y Georgiaid yn Asia, a thrigolion ynysoedd Mor mawr y De."[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Robert Roberts, Y Dangosai Daearyddawl (Llundain: Apollo Press, 1823), t. 10.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am hil
yn Wiciadur.