Sami

Oddi ar Wicipedia
Sami
Sami gyda charw Llychlyn.
Cyfanswm poblogaeth
80,000–100,000
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Norwy, Sweden, y Ffindir, Rwsia
Ieithoedd
Ieithoedd Sami
Norwyeg, Swedeg, Ffinneg, Rwseg
Crefydd
Lwtheriaeth, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, siamanaeth
Grwpiau ethnig perthynol
Pobloedd Ffinnig

Pobl Ffinno-Wgrig sydd yn byw yn y Lapdir yng ngogledd Ffenosgandia yw'r Sami neu'r Lapiaid. Ieithoedd brodorol y Sami ydy'r ieithoedd Sami, er bod nifer ohonynt wedi rhoi'r gorau i'w mamiaith ac yn siarad Norwyeg, Swedeg, Ffinneg, neu Rwseg.

Nomadiaid a fu'n trigo yng ngogledd Llychlyn ers miloedd o flynyddoedd oedd hynafiaid y Sami. Mae union darddiad y Sami yn ansicr: cred rhai ysgolheigion taw un o'r bobloedd Baleo-Siberaidd ydynt, tra bod eraill yn honni iddynt darddu o'r hil Alpaidd yng Nghanolbarth Ewrop. Er eu bod yn siarad ieithoedd Ffinno-Wgrig, nid ydynt yn perthyn yn genetig i'r bobloedd Ffinnig eraill nac i'r bobloedd Indo-Ewropeaidd.[1] Yn sgil dyfodiad y Ffiniaid i'r Ffindir yn yr 2g OC, cafodd aneddiadau'r Sami eu gyrru tua'r gogledd. Digwyddai'r un peth yn Sweden a Norwy, ac erbyn heddiw mae'r Sami wedi eu cyfyngu i Gylch yr Arctig yn bennaf.

Am amseroedd maith, cafodd ceirw Llychlyn eu hela gan y Sami, a'u cadw mewn niferoedd bychain fel anifeiliaid denu. Ychydig o ganrifoedd yn ôl, dechreuasant cadw gyrroedd o geirw Llychlyn, a daeth fugeilyddiaeth nomadaidd yn brif fywoliaeth y Sami. Buont yn byw mewn pebyll neu gytiau pridd, ac yn mudo ar yr eira gyda'u hanifeiliaid mewn grwpiau o bum neu chwe theulu. Buont hefyd yn pysgota ac yn hela anifeiliaid eraill am fwyd. Yn yr 20g daeth y ffordd nomadaidd o fyw i ben, ar wahân i ambell fugail sydd yn gyrru ei anifeiliaid ar ben ei hun tra bod ei deulu yn byw mewn tŷ modern. Mae nifer o Sami Norwy yn bysgotwyr ar yr arfodir. Mae eraill yn dibynnu ar ffermio, coedwigaeth, pysgota afonydd, a mwyngloddio, neu'n cymryd swyddi mewn trefi a dinasoedd Llychlyn.

Yn hanesyddol siamanaeth oedd crefydd y Sami, ac mae rhai ohonynt yn dal i arfer defodau traddodiadol. Cafodd y mwyafrif ohonynt eu cristioneiddio. Mae nifer o Sami'r Ffindir a Rwsia yn perthyn i'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, tra bo'r mwyafrif o'r Sami eraill yn Lwtheriaid. Mae nifer o gymunedau'r gogledd yn dilyn ffurf ar gynulleidfaoliaeth efengylaidd o'r enw Laestadianaeth.[2]

Bu rhagfarn yn eu herbyn yn yr oes fodern ac ymdrechai llywodraethau Llychlyn i gymhathu'r Sami yn ddiwylliannol. Cafodd yr ieithoedd Sami eu gwahardd yn yr ysgol. Yn ail hanner yr 20g, enillodd y Sami fwy o hawliau, gan gynnwys addysg drwy gyfrwng yr ieithoedd Sami a gwarchodaeth porfeydd ceirw Llychlyn. Sefydlwyd cymdeithasau gwleidyddol a diwylliannol gan y Sami, ac mae ychydig o bapurau newydd a rhaglenni radio yn eu hieithoedd brodorol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Iiddá, "The Origin and Genetic Background of the Sámi", Prifysgol Texas. Adalwyd ar 4 Hydref 2018.
  2. (Saesneg) Sami. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Hydref 2018.