Carw Llychlyn
Gwedd
| Carw Llychlyn Amrediad amseryddol: Pleistosen – presennol | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Artiodactyla |
| Teulu: | Cervidae |
| Genws: | Rangifer C. H. Smith, 1827 |
| Rhywogaeth: | R. tarandus |
| Enw deuenwol | |
| Rangifer tarandus (Linnaeus, 1758) | |
Carw o ranbarthau arctig ac is-arctig y byd yw carw Llychlyn (Rangifer tarandus), hefyd caribŵ, carw Canada neu garw Lapdir. Mae'n byw mewn twndra, mynyddoedd a choedwigoedd yn Llychlyn, Rwsia, Alaska, Canada a'r Ynys Las.[1] Diflannodd y carw o Brydain yn ystod y cyfnod Mesolithig ond mae wedi cael ei ailgyflwyno i'r Cairngorms yn yr Alban.[2]
Mae'n 94–127 cm o daldra ac mae'n pwyso 91–272 kg.[1] Mae ei ffwr yn frown yn ystod yr haf ac yn llwyd yn y gaeaf.[1]
Mae wedi cael ei dofi gan nifer o bobloedd yr Arctig megis y Sami sy'n defnyddio'r cig, llaeth a chroen.[1] Mewn llên gwerin, mae carw Llychlyn yn enwog am dynnu sled Siôn Corn.