Cylch yr Arctig
Gwedd
| Math | polar circle, rhanbarth |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Norwy, Sweden, Y Ffindir, Rwsia, Unol Daleithiau America, Canada, Yr Ynys Las, Gwlad yr Iâ |
| Cyfesurynnau | 66.561611°N 0.000000°E |
| Hyd | 15,984.36 cilometr |
![]() | |
Cylch yr Arctig yw'r llinell sy'n dynodi ffin yr Arctig. I'r gogledd o'r cylch yma, mae'r haul yn y golwg am 24 awr ar o leiaf un diwrnod yn yr haf, ac o'r golwg am 24 awr ar o leiaf un diwrnod yn y gaeaf.
Y gwledydd sydd a thiriogaethau i'r gogledd o Gylch yr Arctig yw Norwy, Sweden, y Ffindir, Rwsia, yr Unol Daleithiau (Alaska), Canada, Denmarc (Yr Ynys Las) a Gwlad yr Ia (ynys Grímsey). Nid oes poblogaeth fawr i'r gogledd o Gylch yr Arctig. Y dinasoedd mwyaf yw Murmansk (poblogaeth 325,100), Norilsk (135,000), a Vorkuta (85,000), i gyd yn Rwsia, a Tromsø (Norway) gyda tua 62,000.

